Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 05/11/2026 i'w hateb ar 10/11/2026

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ64909 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2026

Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o gyflawni Cyfamod y Lluoedd Arfog ar gyfer cyn-filwyr ym Mro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr, o ystyried mai gwirfoddol yw cyfranogiad yn y cynllun Practisau Meddygon Teulu Cyfeillgar i Gyn-filwyr?

 
2
OQ64879 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2026

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi fferyllfeydd cymunedol i ymdopi ag amrywiadau mewn prisiau fferyllol?

 
3
OQ64903 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2026

Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith canfyddiadau adolygiad annibynnol Syr David Bell i wrthsemitiaeth mewn ysgolion a cholegau ar Gymru?

 
4
OQ64884 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2026

Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith cyn-filwyr?

 
5
OQ64912 (w) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2026

Pa gynnydd mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran darparu gofal plant a ariennir ym Mangor Conwy Môn?

 
6
OQ64873 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2026

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o gynaliadwyedd y sector addysg bellach?

 
7
OQ64885 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2026

A wnaiff y Prif Weinidog gyflwyno profion wedi'u safoni o dan amodau rheoledig ar gyfer llythrennedd a rhifedd fel y gellir mesur cynnydd yn erbyn targedau?

Buddiant perthnasol wedi'i ddatgan

Mae Claire Johnson-Wood yn gyn-athrawes
 
8
OQ64908 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2026

Pa bwysigrwydd mae'r Prif Weinidog yn ei roi ar flaenoriaethu anghenion Cymru a'i thrigolion dros ymrwymiadau gwariant rhyngwladol wrth ddyrannu arian trethdalwyr Cymru?

 
9
OQ64907 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2026

Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i roi terfyn ar newyn yng Nghymru?

 
10
OQ64911 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2026

Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o rôl chwarae yn y cynllun llythrennedd a rhifedd sylfaenol newydd?

 
11
OQ64868 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2026

Pa gamau mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i sicrhau bod datblygiadau ynni ym Mangor Conwy Môn yn darparu buddion economaidd a chymunedol i bobl leol a busnesau lleol?

 
12
OQ64880 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2026

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddiogelu addysg ac ysgolion gwledig yn Sir Gaerfyrddin?

Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad

1
OQ64863 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/11/2026

Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod Cymru'n gyfrifol ar lefel fyd-eang drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015?

 
2
OQ64862 (w) Wedi’i gyflwyno ar 03/11/2026

Pa asesiad y mae'r Gwienidog Cabinet wedi'i wneud o effaith cyllideb Llywodraeth y DU ar gyflawni'r Rhaglen Lywodraethu?

 
3
OQ64858 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/11/2026

Pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch datganoli cyllid cymorth cyflogaeth?

 
4
OQ64871 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/11/2026

Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod pwerau lles yn cael eu datganoli ymhellach?

 
5
OQ64861 (w) Wedi’i gyflwyno ar 03/11/2026

Pa asesiad mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i wneud o oblygiadau cyllideb Llywodraeth y DU ar gyfer datganoli seilwaith rheilffyrdd?

 
6
OQ64865 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/11/2026

Pa asesiad mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i wneud o effeithiolrwydd byrddau gwasanaethau cyhoeddus yng ngogledd Cymru?

 
7
OQ64872 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/11/2026

Sut bydd y Gweinidog Cabinet yn mesur llwyddiant Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru?

 
8
OQ64850 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/11/2026

Beth mae'r Gweinidog Cabinet yn ei wneud i wella cynhyrchiant gwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru a chyrff eraill a ariennir yn gyhoeddus?

 
9
OQ64870 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/11/2026

Pa drafodaethau mae'r Gweinidog Cabinet wedi'u cael gyda theuluoedd mewn profedigaeth yn sgil Covid am yr adolygiad Covid?

 
10
OQ64854 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/11/2026

Beth yw safbwynt presennol Llywodraeth Cymru ar y setliad datganoli?

 
11
OQ64866 (w) Wedi’i gyflwyno ar 03/11/2026

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod cynllun British Growth Partnership newydd Llywodraeth y DU yn parchu pwerau datganoledig y Senedd a Llywodraeth Cymru?

 
12
OQ64864 (w) Wedi’i gyflwyno ar 03/11/2026

A wnaiff y Gweinidog Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad Arwain?