Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 03/11/2021 i'w hateb ar 10/11/2021
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Newid Hinsawdd
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fesurau lleihau carbon yng Nghymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i warchod coedwigoedd yn Islwyn?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddatblygu seilwaith gwyrdd ar draws Sir Benfro?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer effeithlonrwydd ynni cynaliadwy yng Nghymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith bosibl datganoli rheolaeth dros Ystâd y Goron yng Nghymru ar ynni adnewyddadwy?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol trafnidiaeth gyhoeddus yn Nwyrain De Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y fframwaith rheoleiddio cyfredol ar gyfer plannu coed at ddibenion gwrthbwyso carbon?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r system drafnidiaeth yng Ngorllewin De Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol i wella trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i greu mannau naturiol newydd?
A wnaiff Llywodraeth Cymru roi terfynau newydd Sefydliad Iechyd y Byd 2021 ar lygredd aer mewn cyfraith?
Sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu gostwng allyriadau fel rhan o gynllun Cymru sero net?
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella addysgu hanesion a phrofiadau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn y cwricwlwm?
Sut mae polisïau addysg y Gweinidog yn cyfrannu at darged sero net Llywodraeth Cymru?
Sut bydd rhaglen ysgolion yr 21ain ganrif o fudd i ddisgyblion Dyffryn Clwyd?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol addysg Gymraeg yn Nwyrain De Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiogelu cymunedau Cymraeg?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi ynghylch hyrwyddo manteision addysgol prentisiaethau yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gymwysterau TGAU a lefel A y flwyddyn nesaf?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen ysgolion yr 21ain ganrif?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y telerau ac amodau ar gyfer athrawon cyflenwi sy'n gweithio yng Nghymru?
Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg oed meithrin?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch ymdrechion y Llywodraeth i gefnogi'r Gymraeg yng Ngorllewin De Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau cyflenwad o athrawon Cymraeg fel rhan o'r strategaeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?