Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 05/10/2023 i'w hateb ar 10/10/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa asesiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o effaith busnesau cydweithredol ar economi Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effeithiolrwydd gwasanaethau strôc?
Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar ddefnyddio e-sigaréts mewn mannau cyhoeddus?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu tyfu'r economi yng Ngorllewin De Cymru?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â thaliadau sefydlog trydan yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu unrhyw welliannau penodol i wasanaethau iechyd meddwl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr dros y 12 mis diwethaf?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gradd-brentisiaethau?
Pa ystyriaeth y mae'r Prif Weinidog wedi'i rhoi i’r goblygiadau i Gymru yn sgil llythyr y Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol at Brif Weinidog y DU ar 2 Hydref 2023?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o ba mor barod yw busnesau lleol ar gyfer pryd y daw Deddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) i rym?
Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i drefniadau teithio i ddysgwyr yn y bil bysiau sydd ar ddod?
Sut bydd gwaith trydaneiddio Metro De Cymru o fudd i gymudwyr sy'n teithio i ac o'r Rhondda Fach a'r Rhondda Fawr?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar wella ansawdd dŵr yn Sir Benfro?