Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 03/10/2018 i'w hateb ar 10/10/2018

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

1
OAQ52717 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/10/2018

Pa ystyriaeth a roddodd Ysgrifennydd y Cabinet i wasanaethau ataliol wrth benderfynu ar y gyllideb ddrafft?

 
2
OAQ52709 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/10/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wariant Llywodraeth Cymru yn 2019-20 ym Mynwy?

 
3
OAQ52739 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/10/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y bydd y gyllideb ddrafft yn helpu awdurdodau lleol yng ngogledd Cymru yn sgil y pwysau ariannol sydd arnynt?

 
4
OAQ52724 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/10/2018

Pa effaith y mae'r gyfradd dreth trafodiadau tir o 6 y cant wedi'i chael ar refeniw treth o drafodiadau eiddo masnachol dros £1 miliwn ers mis Ebrill 2018?

 
5
OAQ52725 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/10/2018

Pa drafodaethau sydd wedi'u cynnal i sicrhau y bydd cronfeydd strwythurol yn cael eu rheoli gan Lywodraeth Cymru ar ôl Brexit?

 
6
OAQ52722 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/10/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y rhagolygon ariannol sy'n sail i'r gyllideb ddrafft?

 
7
OAQ52726 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/10/2018

Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei rhoi i gynorthwyo'r gwaith o ddileu digartrefedd wrth ddyrannu arian i'r portffolio llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus?

 
8
OAQ52716 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/10/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynnydd Llywodraeth Cymru o ran symud tuag at fodel cyllidebu sy'n canolbwyntio mwy ar wario ataliol?

 
9
OAQ52712 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/10/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gaffael cyhoeddus yng Ngorllewin De Cymru?

 
10
OAQ52721 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/10/2018

Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o effaith cyllideb ddiweddar Llywodraeth Cymru ar dalwyr y dreth gyngor yng Ngorllewin De Cymru?

 
11
OAQ52734 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 03/10/2018

Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i rhoi i ddarparu cymorth ariannol i helpu sefydliadau i baratoi ar gyfer Brexit wrth ddyrannu'r gyllideb ddrafft?

 
12
OAQ52736 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 03/10/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gyfarfod â chyngor dinas Preston i ddeall pa wersi y gall Llywodraeth Cymru eu dysgu o'i ffordd o ymdrin â chaffael cyhoeddus?

Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip

1
OAQ52708 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/10/2018

A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fand eang cyflym iawn ym Mynwy?

 
2
OAQ52727 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/10/2018

A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am ddatblygu 5G yng Ngogledd Cymru?

 
3
OAQ52707 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/10/2018

A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith diweddaraf i gyflwyno band eang ym Mhreseli Sir Benfro?

 
4
OAQ52730 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/10/2018

Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i hyrwyddo cydweithio digidol rhwng y sector cyhoeddus a'r sector preifat?

 
5
OAQ52720 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/10/2018

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â bwlio ar sail rhyw?

 
6
OAQ52711 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/10/2018

A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth o fand eang yn Nwyrain Casnewydd?

 
7
OAQ52718 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/10/2018

A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi datganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a cham-drin domestig?

 
8
OAQ52738 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/10/2018

A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno band eang cyflym iawn ledled Cymru?

 
9
OAQ52713 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/10/2018

A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am y ddarpariaeth o fand eang cyflym iawn yng Nghaerffili?

 
10
OAQ52704 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/10/2018

Pa gamau diweddar y mae Arweinydd y Tŷ wedi'u cymryd mewn perthynas â'i chyfrifoldebau portffolio dros gydraddoldeb?

 
11
OAQ52732 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/10/2018

Pa drafodaethau y mae Arweinydd y Tŷ wedi'u cael gyda'r Cwnsler Cyffredinol ynghylch y camau y mae angen i Lywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod yr hawliau a nodir yn siarter hawliau sylfaenol Ewrop yn cael eu hymgorffori o fewn cyfraith Cymru ar ôl i'r DU ymadael â'r UE?

 
12
OAQ52728 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/10/2018

Pa drafodaethau diweddar y mae Arweinydd y Tŷ wedi'u cael am hawliau dynol mewn perthynas â chonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig a'r UE?

 
13
OAQ52733 (w) Wedi’i gyflwyno ar 03/10/2018

A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am argaeledd 3G a 4G yng Ngogledd Cymru?

 
14
OAQ52737 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/10/2018

A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd trawsnewid digidol ar draws sector cyhoeddus Cymru?

 
15
OAQ52705 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/10/2018

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn goruchwylio cydymffurfiaeth â dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus?

Comisiwn y Cynulliad

1
OAQ52715 (w) Wedi’i gyflwyno ar 03/10/2018

Pa werthusiad y mae'r Comiswn wedi'i wneud o gyfranogiad y Cynulliad yn Eisteddfod Genedlaethol 2018 ym Mae Caerdydd?

 
2
OAQ52740 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/10/2018

Pa ddigwyddiadau y mae'r Comisiwn wedi'u cynllunio i goffáu canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf?

 
3
OAQ52735 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 03/10/2018

Pa gynlluniau sydd gan y Comisiwn i wella'r amgylchedd o amgylch y Cynulliad?

 
4
OAQ52731 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/10/2018

Beth y mae'r Comisiwn yn ei wneud i annog pobl ifanc i ymweld â'r Cynulliad?

 
5
OAQ52729 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/10/2018

A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am ddarparu adnoddau ar gyfer Senedd Ieuenctid Cymru?

 
6
OAQ52741 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/10/2018

A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am barodrwydd y Cynulliad a'i swyddfeydd ledled y wlad i ymateb i ymosodiadau terfysgol posibl?