Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 03/07/2024 i'w hateb ar 10/07/2024

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio

1
OQ61422 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2024

Pa drafodaethau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda phartneriaid llywodraeth leol ynglŷn â manteision symud pensiynau llywodraeth leol Cymru i ffwrdd o fuddsoddiadau tanwydd ffosil?

 
2
OQ61433 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad am waith Llywodraeth Cymru gyda chynghorau lleol i wella hygyrchedd i drigolion anabl yng nghanol trefi?

 
3
OQ61423 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cyrraedd ei thargedau o ran tai?

 
4
OQ61432 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2024

Pa faterion o ran tai y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u nodi fel blaenoriaethau i fynd i’r afael â hwy dros weddill tymor y Senedd hon?

 
5
OQ61428 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2024

Pa werthusiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r polisi datblygiadau Un Blaned?

 
6
OQ61442 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2024

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod tai yn diwallu anghenion tenantiaid ar bob cam o'u bywydau?

 
7
OQ61416 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2024

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi’r broses o ddatgarboneiddio cartrefi?

 
8
OQ61407 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2024

Pa gamau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i leihau nifer yr achosion o leoli pobl ddigartref mewn gwestai?

 
9
OQ61418 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2024

Pa drafodaethau y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda chwmnïau dŵr ynglŷn â gosod systemau chwistrellu dŵr mewn eiddo newydd?

 
10
OQ61425 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet amlinellu strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer ad-drefnu llywodraeth leol?

 
11
OQ61426 (w) Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd y Cabinet wneud datganiad am ddyfodol safle pwll glo brig Ffos-y-frân?

 
12
OQ61411 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu tai cydweithredol yng Nghymru?

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

1
OQ61431 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2024

Pa gynlluniau sydd gan yr Ysgrifennydd Cabinet i annog pobl ifanc i ddysgu chwarae offerynnau cerddorol?

 
2
OQ61434 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2024

Pa asesiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o drefniadau diogelu ar gyfer clybiau gwyliau sy’n defnyddio adeiladau ysgolion?

 
3
OQ61406 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2024

Pa gamau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i gefnogi ysgolion preifat yng Nghymru?

 
4
OQ61424 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2024

Pa asesiad y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith y nifer uchel o athrawon a ddiswyddwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ar addysg mewn ysgolion?

 
5
OQ61440 (w) Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2024

Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i ddisgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol?

 
6
OQ61419 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2024

Sut y gellir defnyddio’r rhaglen ysgolion ar gyfer yr 21ain ganrif yn y modd mwyaf effeithiol yng nghanol dinasoedd?

 
7
OQ61435 (w) Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2024

Pa gamau sy'n cael eu cymeryd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ysgolion yng Nghanol De Cymru yn gweithredu y Polisïau gwisg ysgol statudol ddaeth i rym y llynedd?

 
8
OQ61430 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am gymorth iechyd meddwl mewn ysgolion?

 
9
OQ61415 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am gyfranogiad ysgolion yn y rhaglen eco-sgolion?

 
10
OQ61427 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet adolygu'r trothwy o ran incwm uchaf i unigolyn fod yn gymwys i gael cyfrif dysgu personol?

 
11
OQ61420 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ei blaenoriaethau ar gyfer ysgolion Dwyrain De Cymru?

 
12
OQ61437 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad am waith Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ysgolion yn cynnig profiad ac amgylchedd dysgu cynhwysol i bawb?