Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 03/07/2019 i'w hateb ar 10/07/2019

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

1
OAQ54227 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer twf economaidd yn Aberafan?

 
2
OAQ54222 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2019

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda chyd-aleodau'r cabinet ynghylch defnyddio caffael cyhoeddus i gefnogi busnesau lleol?

 
3
OAQ54225 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am welliannau arfaethedig i wasanaethau rheilffyrdd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

 
4
OAQ54198 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau trên ar reilffordd y Cambrian?

 
5
OAQ54199 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2019

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith economaidd twristiaeth yng ngogledd Cymru?

 
6
OAQ54214 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisïau trafnidiaeth gyhoeddus Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygiadau tai newydd?

 
7
OAQ54219 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2019

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y bydd gadael undeb tollau'r UE a'r farchnad sengl yn ei chael ar economi Cymru?

 
8
OAQ54218 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2019

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynigion i liniaru sŵn ar hyd y A40 yn Sir Fynwy?

 
9
OAQ54195 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2019

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygu economaidd yn ardal Blaenau'r Cymoedd?

 
10
OAQ54208 (w) Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2019

A wnaiff y Gweinidog sylw am y gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau bysiau yn y Gogledd?

 
11
OAQ54205 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2019

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cyfleoedd swyddi yn cael eu creu yn y Rhondda?

 
12
OAQ54204 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2019

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am nifer y busnesau bach a chanolig ym Merthyr Tudful a Rhymni sy'n gwneud defnydd o brentisiaethau?

Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit

1
OAQ54215 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2019

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am ddatblygiad fframweithiau cyffredin y DU?

 
2
OAQ54226 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2019

Pa asesiad sydd wedi'i wneud o effaith Brexit ar y diwydiant gweithgynhyrchu ceir?

 
3
OAQ54221 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2019

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am ymgysylltiad Llywodraeth Cymru â busnesau bach ar barodrwydd ar gyfer Brexit?

 
4
OAQ54193 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2019

Pa gyfarfodydd y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u trefnu gyda Llywodraeth y DU i drafod Brexit dros doriad yr haf?

 
5
OAQ54209 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2019

Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith y bydd Brexit yn ei chael ar y cymorth cyfreithiol fydd ar gael?

 
6
OAQ54196 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2019

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael ynghylch trefniadau llywodraethu'r DU ar ôl Brexit?

 
7
OAQ54223 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2019

Pa gynlluniau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i amddiffyn busnesau os bydd Senedd y DU yn methu â rhwystro'r DU rhag gadael yr UE heb gytundeb?

 
8
OAQ54206 (w) Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2019

Pryd mae’r Cwnsler Cyffredinol yn disgwyl derbyn gwybodaeth allweddol gan Lywodraeth y DU a fydd yn caniatau i Lywodraeth Cymru gwblhau ei chynlluniau ar gyfer Brexit?

 
9
OAQ54228 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2019

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Gweinidogion y DU am y rôl y bydd Cymru yn ei chwarae mewn trafodaethau ar y berthynas â'r UE yn y dyfodol?

 
10
OAQ54211 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2019

Pa sicrwydd y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i gael gan Lywodraeth y DU y bydd cynlluniau ar gyfer y gronfa ffyniant gyfffredin yn parchu'r setliad datganoli?

 
11
OAQ54224 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2019

Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu diogelu twristiaeth o'r UE ar ôl Brexit?

 
12
OAQ54230 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2019

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu busnesau yn Ogwr i baratoi at y posibilrwydd o Brexit heb gytundeb?