Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 05/06/2025 i'w hateb ar 10/06/2025

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ62846 (w) Wedi’i gyflwyno ar 05/06/2025

Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o effaith polisïau Llywodraeth y DG ar lefelau tlodi yng Nghymru?

 
2
OQ62820 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/06/2025

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar gwblhau gwaith Ffordd Blaenau'r Cymoedd yr A465?

 
3
OQ62847 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/06/2025

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i atal adnoddau rhag cael eu gwastraffu o fewn y GIG?

 
4
OQ62810 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/06/2025

Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i lesddeiliaid mewn adeiladau sy'n ddiffygiol o ran tân?

 
5
OQ62845 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/06/2025

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi preswylwyr ar draws Gorllewin De Cymru gyda'r pwysau costau byw?

 
6
OQ62816 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/06/2025

A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar y cynnydd tuag at gyflawni'r pedair brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn y Senedd ar 17 Medi 2024?

 
7
OQ62849 (w) Wedi’i gyflwyno ar 05/06/2025

Sut mae Llywodraeth Cymru am fynd i’r afael â'r pryderon ynghylch gweithrediad polisiau anghyson polisiau trafnidiaeth ysgol a nodwyd gan yr adolygiad o'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr yn 2021, a chysoni a gwella darpariaeth trafnidiaeth ysgol ar draws Cymru?

 
8
OQ62833 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/06/2025

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod rhanddeiliaid yn ymgysylltu'n briodol ynghylch gwasanaethau iechyd yng Nghanol De Cymru?

 
9
OQ62805 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/06/2025

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith yr ardoll ymwelwyr arfaethedig ar sefydliadau a gaiff eu harwain gan wirfoddolwyr?

 
10
OQ62850 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/06/2025

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth Llywodraeth Cymru i leoliadau diwylliannol yng ngogledd-ddwyrain Cymru?

 
11
OQ62825 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/06/2025

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn diogelu'r rhwydwaith ystad ffermydd sirol ar draws Cymru?

 
12
OQ62848 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/06/2025

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau gwledig yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?