Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 02/05/2023 i'w hateb ar 10/05/2023

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

1
OQ59467 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/05/2023

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Chyngor Dinas Casnewydd ynglŷn â'i allu i ddarparu ei wasanaethau statudol?

 
2
OQ59483 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/05/2023

Pa gamau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd i sicrhau bod y cyllid ar gyfer awdurdodau lleol yn cael ei ddosbarthu'n deg?

 
3
OQ59484 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/05/2023

A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar bolisi Llywodraeth Cymru ar gyfer cyfarfodydd aml-leoliad awdurdodau lleol? 

 
4
OQ59471 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/05/2023

Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiwygio democratiaeth leol?

 
5
OQ59472 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/05/2023

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu cyllidebau rhanbarthol Llywodraeth Cymru yn ystod y Chweched Senedd?

 
6
OQ59490 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/05/2023

A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar waith caffael sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru i gefnogi awdurdodau lleol gyda'u costau ynni?

 
7
OQ59463 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/05/2023

A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar raglen gyfalaf 2023/24 Llywodraeth Cymru?

 
8
OQ59478 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/05/2023

Beth yw asesiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o arferion adennill dyledion mewn llywodraeth leol ar draws Cymru?

 
9
OQ59469 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/05/2023

Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi'i wneud o berfformiad awdurdodau lleol o'u dyletswyddau statudol?

 
10
OQ59482 (w) Wedi’i gyflwyno ar 02/05/2023

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y cyllid cyfalaf sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i gynnal a chadw asedau cyhoeddus Cyngor Sir Ynys Môn?

Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

1
OQ59485 (e) Datganodd yr Aelod fuddiant Wedi’i gyflwyno ar 02/05/2023

Pa gefnogaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu i'r diwydiant amaethyddol?

 
2
OQ59479 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/05/2023

Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i reoleiddio perchnogaeth cŵn yn well?

 
3
OQ59477 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/05/2023

Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi ynglŷn â sicrhau bod ardal gogledd Cymru yn elwa o lwyddiant chwaraeon Cymru?

 
4
OQ59470 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/05/2023

A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar brosiectau Llywodraeth Cymru i ddileu TB yng Nghymru?

 
5
OQ59489 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/05/2023

A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar reoleiddio sefydliadau lles anifeiliaid?

 
6
OQ59466 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/05/2023

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi ffermwyr ym Mhreseli Sir Benfro?

 
7
OQ59488 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/05/2023

Pryd fydd adolygiad o'r Cod Ymarfer ar gyfer Adar Hela sy’n Cael eu Magu at Bwrpas Helwriaeth yn cael ei gynnal?

 
8
OQ59473 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/05/2023

Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda chyd-aelodau'r Cabinet ynghylch y llinell drên rhwng Wrecsam a Bidston yng ngogledd Cymru?

 
9
OQ59491 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/05/2023

Pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi 'u cael gyda Chonsortiwm Manwerthu Cymru ynglŷn â lleihau'r ynni y mae manwerthwyr bwyd yn y gogledd yn ei ddefnyddio?

 
10
OQ59475 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/05/2023

Pa gamau mae'r Gweinidog yn eu cymryd i gynyddu cynhyrchiant llysiau a ffrwythau yng Nghymru yn sgil yr argyfwng hinsawdd sy'n gwaethygu yn ne Sbaen?

 
11
OQ59481 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/05/2023

Sut mae Llywodraeth Cymru'n amddiffyn lles anifeiliaid drwy gefnogi'r rhai sydd â biliau milfeddyg yn ystod yr argyfwng costau byw?

 
12
OQ59486 (w) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 02/05/2023

Pa drafodaethau mae'r Gweinidog yn eu cael gyda chyd-Weinidogion ynghylch gwella rheilffordd arfordir y gogledd sy'n gwasanaethu Arfon?