Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 02/05/2023 i'w hateb ar 10/05/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Chyngor Dinas Casnewydd ynglŷn â'i allu i ddarparu ei wasanaethau statudol?
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd i sicrhau bod y cyllid ar gyfer awdurdodau lleol yn cael ei ddosbarthu'n deg?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar bolisi Llywodraeth Cymru ar gyfer cyfarfodydd aml-leoliad awdurdodau lleol?
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiwygio democratiaeth leol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu cyllidebau rhanbarthol Llywodraeth Cymru yn ystod y Chweched Senedd?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar waith caffael sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru i gefnogi awdurdodau lleol gyda'u costau ynni?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar raglen gyfalaf 2023/24 Llywodraeth Cymru?
Beth yw asesiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o arferion adennill dyledion mewn llywodraeth leol ar draws Cymru?
Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi'i wneud o berfformiad awdurdodau lleol o'u dyletswyddau statudol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y cyllid cyfalaf sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i gynnal a chadw asedau cyhoeddus Cyngor Sir Ynys Môn?
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Pa gefnogaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu i'r diwydiant amaethyddol?
Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i reoleiddio perchnogaeth cŵn yn well?
Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi ynglŷn â sicrhau bod ardal gogledd Cymru yn elwa o lwyddiant chwaraeon Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar brosiectau Llywodraeth Cymru i ddileu TB yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar reoleiddio sefydliadau lles anifeiliaid?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi ffermwyr ym Mhreseli Sir Benfro?
Pryd fydd adolygiad o'r Cod Ymarfer ar gyfer Adar Hela sy’n Cael eu Magu at Bwrpas Helwriaeth yn cael ei gynnal?
Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda chyd-aelodau'r Cabinet ynghylch y llinell drên rhwng Wrecsam a Bidston yng ngogledd Cymru?
Pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi 'u cael gyda Chonsortiwm Manwerthu Cymru ynglŷn â lleihau'r ynni y mae manwerthwyr bwyd yn y gogledd yn ei ddefnyddio?
Pa gamau mae'r Gweinidog yn eu cymryd i gynyddu cynhyrchiant llysiau a ffrwythau yng Nghymru yn sgil yr argyfwng hinsawdd sy'n gwaethygu yn ne Sbaen?
Sut mae Llywodraeth Cymru'n amddiffyn lles anifeiliaid drwy gefnogi'r rhai sydd â biliau milfeddyg yn ystod yr argyfwng costau byw?
Pa drafodaethau mae'r Gweinidog yn eu cael gyda chyd-Weinidogion ynghylch gwella rheilffordd arfordir y gogledd sy'n gwasanaethu Arfon?