Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 05/05/2022 i'w hateb ar 10/05/2022
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU a chynghorau ynghylch effaith Deddf Diogelwch Adeiladu 2022 y DU ar drigolion Cymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod lleisiau plant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal yn cael eu clywed i'w galluogi i lywio penderfyniadau polisi, fel diwygio'r gwasanaethau presennol mewn modd radical?
A wnaiff y Prif Weinidog rannu’r wybodaeth ddiweddaraf am darged Llywodraeth Cymru i ddileu hepatitis C yng Nghymru?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i goffáu 10 mlynedd ers lansio llwybr arfordir Cymru?
Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd yn sgil adroddiad interim adolygiad Cass?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r defnydd o ddiswyddo ac ailgyflogi gan gwmnïau yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddyfodol ynni adnewyddadwy yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu clirio'r rhestrau aros ar gyfer gwasanaethau awdioleg?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hyrwyddo cyflogaeth yn y sector cyhoeddus?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllid ar gyfer cartrefi gofal yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar gynllun ar gyfer ysgol feddygol y Gogledd?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella lefelau'r nifer sydd yn pleidleisio mewn etholiadau lleol?