Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 05/03/2026 i'w hateb ar 10/03/2026
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi elusennau hosbis?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi teuluoedd yn y Rhondda gyda chostau byw?
Beth yw'r gost amcangyfrifedig o wrthdroi'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig?
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddod a’r anghydfod rhwng ymwelwyr iechyd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i ben?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cyflymu llif cleifion drwy ysbytai?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar uchelgeisiau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon a thaflu sbwriel ym Mhontypridd?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod y GIG yn addas ar gyfer y dyfodol?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ac Ofgem ynglŷn â thaliadau sefydlog trydan i aelwydydd yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei blaenoriaethau o ran trwsio ffyrdd a phalmentydd?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn mesur llwyddiant cyflwyno'r terfyn cyflymder o 20mya?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith mewnfudo ar Gymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu i gynyddu darpariaeth deintyddiaeth y GIG ym Mhowys?