Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 03/03/2021 i'w hateb ar 10/03/2021

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

1
OQ56410 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/03/2021

Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon yng Ngorllewin Casnewydd?

 
2
OQ56386 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/03/2021

Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i ffermwyr y mae Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 yn debygol o effeithio arnynt?

 
3
OQ56390 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/03/2021

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r diwydiant ffermio yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?

 
4
OQ56392 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/03/2021

Sut mae'r Gweinidog yn defnyddio tystiolaeth i lywio penderfyniadau polisi Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â'r amgylchedd?

 
5
OQ56391 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/03/2021

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y defnydd o danwyddau gwyrddach yng Nghymru?

 
6
OQ56379 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/03/2021

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella lles anifeiliaid?

 
7
OQ56402 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 03/03/2021

Pa bwerau newydd sydd ar gael i awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru i'w galluogi i ddelio â storio coed gwastraff, yn sgil y tanau naddion pren yn Heol-y-Cyw yn 2016?

 
8
OQ56407 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/03/2021

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am reoliadau Llywodraeth Cymru i wahardd gwerthu cŵn bach trydydd parti, a elwir fel arall yn gyfraith Lucy?

 
9
OQ56404 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 03/03/2021

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Awdurdod Glo ynghylch llifogydd diweddar yn ardal Castell-nedd Port Talbot?

 
10
OQ56387 (w) Wedi’i gyflwyno ar 03/03/2021

A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am y cynllun Arbed yn Arfon?

 
11
OQ56382 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/03/2021

Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i ffermwyr ym Mhreseli Sir Benfro?

 
12
OQ56411 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/03/2021

Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu nifer yr ardaloedd gwyrdd mewn dinasoedd a threfi ledled Cymru?

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

1
OQ56408 (w) Wedi’i gyflwyno ar 03/03/2021

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwysigrwydd addasiadau i'r cartref fel ffordd i alluogi pobl hŷn i fyw yn iachach ac yn fwy annibynnol?

 
2
OQ56399 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/03/2021

Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran darparu addasiadau i'r cartref i bobl ag anableddau?

 
3
OQ56406 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/03/2021

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth ariannol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent?

 
4
OQ56395 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/03/2021

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol yn ystod tymor y Senedd hon?

 
5
OQ56389 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/03/2021

Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwneud y broses gynllunio yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn fwy ymatebol i breswylwyr?

 
6
OQ56383 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/03/2021

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector tai ym Mhreseli Sir Benfro?

 
7
OQ56384 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/03/2021

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fwriad Llywodraeth Cymru i ddiwygio polisi cynllunio yng Nghymru?

 
8
OQ56412 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/03/2021

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ynghylch ymdrechion i annog awdurdodau lleol i gefnogi economïau lleol yng ngogledd Cymru?

 
9
OQ56415 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/03/2021

Pa gynlluniau sydd ar waith i sicrhau na fydd pandemig y coronafeirws yn cael efffaith andwyol ar awdurdodau lleol o safbwynt ariannol?

 
10
OQ56409 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 03/03/2021

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd mewn perthynas â chymorth tai i fyfyrwyr yn y sector rhentu preifat?

 
11
OQ56398 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/03/2021

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd ynghylch yr effaith y mae'r dreth a delir wrth brynu eiddo preswyl yn ei chael ar stoc tai Cymru?

 
12
OQ56380 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/03/2021

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adeiladu tai cyngor yng Nghymru?