Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 05/03/2020 i'w hateb ar 10/03/2020
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella ymgysylltiad dinasyddion yng ngwleidyddiaeth a democratiaeth Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygiad gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i brosiectau cynhyrchu ynni lleol a chymunedol o amgylch Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar ddarpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru?
Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i weithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd a phartneriaid eraill i adfywio canol Dinas Casnewydd?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau o ran ymdrin â chostau'r llifogydd diweddar?
Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwrthdroi colledion bioamrywiaeth yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ariannu hosbisau yng Nghymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod cytundebau tenantiaeth yn diwallu anghenion tenantiaid mewn tai cymdeithasol?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU ers etholiad cyffredinol y DU ynghylch dyfodol y sector gweithgynhyrchu yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ba fesurau sydd ar waith i annog busnesau bach a chanolig eu maint sy'n adeiladwyr tai yn ôl i farchnad Cymru?