Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 05/02/2026 i'w hateb ar 10/02/2026
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi elusennau yng Nghymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi prosiect Porth Wrecsam?
Beth yw blaenoriaethau gofal iechyd Llywodraeth Cymru ar gyfer Preseli Sir Benfro dros y deuddeg mis nesaf?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar gynnydd Llywodraeth Cymru i leihau gwastraff, tipio anghyfreithlon a thaflu sbwriel?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar statws mesurau arbennig Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi tafarndai a bragdai yng Ngorllewin De Cymru?
Pa gamau pellach fydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gryfhau'r iaith Gymraeg ym mhob rhan o Gymru?
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella lles anifeiliaid?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar waith Partneriaid Iechyd Caerdydd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaeth gofal gynaecolegol yng ngogledd Cymru?
Pa baratoadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud ar gyfer cael gwared ar fwydydd wedi'u prosesu'n helaeth o gaffael cyhoeddus?
Sut bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwelliannau i'r seilwaith ym Mlaenau Gwent i wella cysylltedd a gwasanaethau?