Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 03/01/2024 i'w hateb ar 10/01/2024

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Gweinidog yr Economi

1
OQ60456 (d) Wedi’i gyflwyno ar 03/01/2024

A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar y posibilrwydd o golli swyddi yn Tata Steel ym Mhort Talbot?

 
2
OQ60484 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/01/2024

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi swyddi gwyrdd?

 
3
OQ60476 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/01/2024

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith ddisgwyliedig y terfyn cyflymder cyffredinol o 20mya ar economi Cymru?

 
4
OQ60471 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/01/2024

Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer helpu a chefnogi sector y celfyddydau a'r sector diwylliant yng Nghymru?

 
5
OQ60458 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/01/2024

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y bwriad arfaethedig i gau canolfannau hamdden ar chwaraeon cymunedol, gweithgarwch corfforol a gweithgareddau hamdden egnïol yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili?

 
6
OQ60468 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/01/2024

Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi busnesau bach yn 2024?

 
7
OQ60474 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/01/2024

Pa sgyrsiau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda chyrff chwaraeon ynghylch brwydro yn erbyn trais ar sail rhywedd?

 
8
OQ60475 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/01/2024

A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar genhadaeth economaidd Llywodraeth Cymru?

 
9
OQ60479 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/01/2024

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am berfformiad Banc Datblygu Cymru?

 
10
OQ60483 (w) Wedi’i gyflwyno ar 03/01/2024

A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am gysylltedd ddigidol yn Nwyfor Meirionnydd?

 
11
OQ60454 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/01/2024

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o rôl y diwydiannau creadigol wrth ddatblygu economi Gogledd Cymru?

 
12
OQ60462 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/01/2024

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â phrinder sgiliau cyflogaeth yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

1
OQ60459 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/01/2024

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y bydd toriadau i wasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol yn ei chael ar amseroedd aros y GIG yn 2024?

 
2
OQ60481 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/01/2024

Beth yw asesiad presennol Llywodraeth Cymru o argaeledd gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol yn Nwyrain Casnewydd?

 
3
OQ60473 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/01/2024

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut mae GIG Cymru yn ymdrin â phwysau'r gaeaf?

 
4
OQ60457 (d) Wedi’i gyflwyno ar 03/01/2024

Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod gan bobl sy'n byw yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe hyder mewn gwasanaethau iechyd lleol?

 
5
OQ60465 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/01/2024

Sut mae Llywodraeth Cymru yn helpu i gadw a recriwtio therapyddion iaith a lleferydd yng Nghymru?

 
6
OQ60472 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/01/2024

Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cynyddu bwydo ar y fron?

 
7
OQ60480 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/01/2024

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella'r ddarpariaeth iechyd meddwl mewn cymunedau gwledig yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

 
8
OQ60469 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/01/2024

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y galw presennol ar wasanaethau meddygon teulu?

 
9
OQ60460 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/01/2024

Sut mae'r Llywodraeth yn cynyddu argaeledd deintyddiaeth y GIG yn Nwyrain De Cymru?

 
10
OQ60464 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/01/2024

Sut mae'r Gweinidog yn gweithio i wella canlyniadau iechyd meddwl yng Nghymru?

 
11
OQ60482 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/01/2024

A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar ddatblygu cynllun iechyd menywod?

 
12
OQ60470 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/01/2024

A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol meddygfeydd?