Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 05/01/2023 i'w hateb ar 10/01/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa gefnogaeth mae Llywodraeth Cymru'n ei rhoi i sefydliadau'r trydydd sector i'w helpu drwy'r argyfwng costau byw?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddileu arosiadau aml-flwyddyn am driniaeth yn y GIG?
Pa gefnogaeth mae Llywodraeth Cymru'n ei darparu i Gyfoeth Naturiol Cymru er mwyn lliniaru llifogydd tir yng nghanolbarth Cymru?
A yw Llywodraeth Cymru'n bwriadu dilyn ôl traed Llywodraeth Yr Alban gyda Bil Diwygio Cydnabod Rhywedd?
Beth mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud i gwtogi amseroedd aros yn y Gwasnaeth Iechyd yng Ngorllewin De Cymru?
Pa gefnogaeth fydd y Llywodraeth yn ei chynnig i allforwyr nwyddau o Gymru yn 2023?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella cysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus o Abertawe?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y digwyddiad mewnol difrifol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ynghylch a yw gosod mesuryddion rhagdalu gan gyflenwyr ynni yn cyfrannu at dlodi yng Nghymru?
Pa gamau pellach y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r diwydiant dur wrth drosglwyddo i ddyfodol mwy cynaliadwy?
Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y gost gynyddol o fyw ar bobl Ogwr?
Sut mae Llywodraeth Cymru'n sicrhau gofal iechyd hygyrch i bobl sydd â nam ar y synhwyrau?