Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 03/01/2018 i'w hateb ar 10/01/2018

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Cwnsler Cyffredinol

1
OAQ51510 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/01/2018

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda chymheiriaid yn y DU mewn perthynas â chadw siarter yr UE ar hawliau sylfaenol yn rhan o gyfraith y DU yn dilyn Brexit?

 
2
OAQ51493 (w) Wedi’i gyflwyno ar 03/01/2018

Pa asesiad y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith Deddfau Uno 1535-42 ar gyfansoddiad Cymru?

 
3
OAQ51523 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/01/2018

Yn sgil Adolygiad Lammy, a wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am amrywiaeth yn y proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru?

 
4
OAQ51494 (w) Wedi’i gyflwyno ar 03/01/2018

Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal ynglŷn a gallu Llywodraeth Cymru i ddefnyddio ei grymoedd newydd o dan Ddeddf Cymru 2017?

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

1
OAQ51518 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/01/2018

Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus i drigolion Cwm Cynon yn 2018?

 
2
OAQ51522 (w) Wedi’i gyflwyno ar 03/01/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fudd economaidd datbygiadau seilwaith ar Ynys Môn?

 
3
OAQ51504 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/01/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effaith stormydd y gaeaf ar y rhwydweithiau ffyrdd?

 
4
OAQ51513 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/01/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i dyfu economi canolbarth Cymru?

 
5
OAQ51502 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/01/2018

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o nifer y busnesau yr effeithir arnynt yn andwyol gan force majeure?

 
6
OAQ51500 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/01/2018

Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o sefyllfa economaidd bresennol y sector adeiladu?

 
7
OAQ51516 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/01/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fanteision y cyflog byw i economi Cymru?

 
8
OAQ51507 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/01/2018

Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella ffyrdd yn ne-ddwyrain Cymru yn 2018?

 
9
OAQ51503 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/01/2018

Yn dilyn ymgynghoriad am wella gwasanaethau bws y llynedd, beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer sicrhau rhwydwaith bysiau cynaliadwy sy'n gwasanaethu Cymru gyfan?

 
10
OAQ51517 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 03/01/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddefnyddio'r rhaglen mannau cyfyng ar yr A470 ym Merthyr Tudful?

 
11
OAQ51520 (w) Wedi’i gyflwyno ar 03/01/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynghylch gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer economi gogledd Cymru?

 
12
OAQ51495 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/01/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y bydd polisïau economaidd Llywodraeth Cymru yn gwella'r cyflogau a gaiff eu cymryd adref yng Nghymru?

 
13
OAQ51499 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/01/2018

Pwy sy'n cynghori Ysgrifennydd y Cabinet ar benderfyniadau i gymeradwyo ceisiadau a wneir i'r gyllideb buddsoddi cyfryngau ar hyn o bryd?

 
14
OAQ51497 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/01/2018

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi mentrau yn y sector preifat a gynlluniwyd i hyrwyddo Mynwy fel porth i dde Cymru?

 
15
OAQ51498 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/01/2018

Sut y mae blaenoriaethu cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus gan Lywodraeth Cymru dros geir modur preifat yn effeithio ar ddyrannu adnoddau o fewn y portffolio economi a thrafnidiaeth?