Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 02/12/2020 i'w hateb ar 09/12/2020
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu ar gyfer datblygu busnesau yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am strategaeth Llywodraeth Cymru i fuddsoddi yn natblygiad economaidd trefi ym Mlaenau'r Cymoedd?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y llwybr coch yn sir y Fflint?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch dyfodol gwaith dur Trostre yn Llanelli?
Pa effaith y bydd argymhellion yr adroddiad Un Rhanbarth, Un Rhwydwaith, Un Tocyn gan Gomisiynydd Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru yn ei chael ar wasanaethau rheilffordd yn Islwyn?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ariannu Trafnidiaeth Cymru gan ei bod bellach wedi cymryd rheolaeth dros fasnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r Gororau?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fuddsoddi strategol mewn trafnidiaeth ym Merthyr Tudful a Rhymni?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith economaidd pandemig y coronafeirws ar Orllewin Clwyd?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn annog beicio yn y Rhondda?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer hyrwyddo twf economaidd yng Nghanol De Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fuddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth ym Mhontypridd a Thaf-Elái?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau bach ar y stryd fawr yng nghanolbarth Cymru?
Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am weithredu'r gronfa ffyniant gyffredin?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael ynghylch Porthladd Caergybi ar ôl i gyfnod pontio'r UE ddod i ben?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effaith paratoadau Brexit ar Ferthyr Tudful a Rhymni?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i ddatblygu ei pherthynas â'r Undeb Ewropeaidd a'r aelod-wladwriaethau ar ôl Brexit?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith y bydd cyhoeddiadau diweddar Llywodraeth y DU ar ei chynlluniau mewnfudo yn ei chael ar Gymru?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith cronfa ffyniant gyffredin y DU ar y setliad datganoli?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal ynghylch effaith proses Brexit ar pa mor gyflym y caiff brechlynnau COVID-19 gymeradwyaethau rheoleiddiol?
A yw'r Cwnsler Cyffredinol wedi trafod trefniadau ar gyfer cefnogi allforio cynnyrch o Gymru ar ôl Brexit gyda'i gydweithwyr gweinidogol?