Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 02/11/2022 i'w hateb ar 09/11/2022

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

1
OQ58649 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/11/2022

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ynglŷn â dyfodol y tocyn croesawu sy'n darparu teithiau bws a threnau am ddim i ffoaduriaid?

 
2
OQ58675 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/11/2022

Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru'n ei darparu ar gyfer cartrefi oddi ar y grid sydd mewn tlodi tanwydd?

 
3
OQ58661 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/11/2022

Sut mae Llywodraeth Cymru yn annog dynion a bechgyn yng Nghymru i wneud addewid y Rhuban Gwyn?

 
4
OQ58647 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/11/2022

Sut mae'r Gweinidog yn sicrhau bod y gwasanaeth tân o fudd i bobl Gorllewin De Cymru?

 
5
OQ58641 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 02/11/2022

Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran taliad incwm sylfaenol cyffredinol ar gyfer pobl ifanc i drosglwyddo allan o ofal?

 
6
OQ58650 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/11/2022

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella'r gefnogaeth i ddynion sy'n profi cam-drin domestig?

 
7
OQ58664 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/11/2022

Sut mae'r asesiad effaith cydraddoldeb ar gyfer ehangu cam 2 y ddarpariaeth gofal plant blynyddoedd cynnar drwy'r rhaglen Dechrau'n Deg yn cymharu â'r asesiad a gwblhawyd ar gyfer cam 1?

 
8
OQ58666 (w) Wedi’i gyflwyno ar 02/11/2022

A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am drafodaethau diweddar efo Llywodraeth y DU am gaethwasiaeth fodern?

 
9
OQ58677 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/11/2022

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ynglŷn â chyflogau ac amodau gweithwyr y Post Brenhinol yng Nghymru?

 
10
OQ58638 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/11/2022

Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i wella cydlyniant cymunedol yng Ngorllewin De Cymru?

 
11
OQ58665 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/11/2022

A wnaiff y Gweinidog nodi ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion yn Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2021/22?

 
12
OQ58673 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/11/2022

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith anghydfod y Post Brenhinol ar ei gweithwyr a'i gwasanaethau yng Nghymru?

Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

1
OQ58678 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/11/2022

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael ynglŷn ag effaith y newidiadau diweddar yn Llywodraeth y DU ar y setliad datganoli?

 
2
OQ58643 (w) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 02/11/2022

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi diweddariad ar gynnydd Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag argymeillion Comisiwn Thomas sy'n ymwneud â materion datgonoledig?

 
3
OQ58676 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/11/2022

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith ynglŷn â'r amserlen ar gyfer Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)?

 
4
OQ58662 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/11/2022

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith ynglŷn â sicrhau cyfiawnder i'r 97 o ddioddefwyr trychineb Hillsborough?

 
5
OQ58668 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/11/2022

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith ynglŷn ag effaith y Bil Streiciau Trafnidiaeth (Lefelau Gwasanaeth Lleiaf) ar y setliad datganoli?

 
6
OQ58657 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/11/2022

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol egluro pa gyngor cyfreithiol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i geisio mewn perthynas â chyflwyno cwota rhyw ar gyfer etholiad Senedd Cymru yn 2026?

 
7
OQ58644 (w) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 02/11/2022

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi diweddariad am gynnydd Llywodraeth Cymru mewn perthynas â diwygio'r system tribiwnlysoedd Cymreig?

 
8
OQ58670 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/11/2022

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith yn y DU am effaith Bil Protocol Gogledd Iwerddon ar gyfansoddiad y DU?

 
9
OQ58656 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/11/2022

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol amlinellu sut y bydd y Bil Cyfraith Statud (Diddymiadau) (Cymru) arfaethedig yn helpu i wella hygyrchedd cyfraith Cymru?

 
10
OQ58655 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/11/2022

Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r goblygiadau cyfreithiol i Gymru o Fil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol Llywodraeth y DU?

 
11
OQ58639 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/11/2022

Sut mae'r Cwnsler Cyffredinol yn sicrhau bod unigolion yn cael cyfleoedd cyfartal o fewn y system gyfiawnder yng Nghymru?

Comisiwn y Senedd

1
OQ58663 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/11/2022

Sut mae'r Comisiwn yn annog staff i wneud addewid y Rhuban Gwyn?

 
2
OQ58658 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/11/2022

Pa feini prawf hanfodol ar wahân i'r gost a ddefnyddiodd y Comisiwn i ddewis y contractwr newydd ar gyfer ffreutur y Senedd?

 
3
OQ58669 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/11/2022

A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu TGCh ar gyfer Aelodau yn y Siambr?

 
4
OQ58645 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/11/2022

Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i gefnogi aelodau staff yn ystod yr argyfwng costau byw presennol?