Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 04/11/2021 i'w hateb ar 09/11/2021
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fesurau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â COVID-19 yn ardal Bwrdeistref Sirol Caerffili?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynghylch y bwlch cyflog ar sail rhywedd yng Ngorllewin De Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector gofal yn ystod y pandemig?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i helpu cymunedau Cymru i ymgysylltu â diwrnod y cofio?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol gweithio o bell yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflwyno band eang ffibr llawn?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi personél sy'n gwasanaethu a chyn-filwyr?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y bydd ei bresenoldeb yn COP26 o fudd i drigolion Dyffryn Clwyd?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i gefnogi'r gwaith o ddatblygu cyfleusterau chwaraeon elît yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau ambiwlans yng Ngorllewin De Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon ledled Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael ag amseroedd aros mewn ysbytai yng Ngogledd Cymru?