Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 02/10/2024 i'w hateb ar 09/10/2024
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â sicrhau cyllid digonol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw drafodaethau y mae wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai ynghylch cyllido awdurdodau lleol yng ngogledd Cymru?
Pa gefnogaeth mae'r Llywodraeth yn ei ddarparu ar gyfer hybu'r defnydd o'r Gymraeg yn rhanbarth Dwyrain De Cymru?
Pa gyfleoedd ar gyfer arbedion effeithlonrwydd gwariant a nodwyd gan Lywodraeth Cymru cyn cyhoeddi ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2025-26?
Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch pryd y bydd cyllid ar gael i dalu iawndal i bobl yng Nghymru y mae'r sgandal gwaed heintiedig yn effeithio arnynt?
Beth yw cynlluniau y Llywodraeth i gynyddu hyder pobl i siarad Cymraeg?
Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch darparu arian ar gyfer parhau i ehangu cynlluniau peilot nyrsio ardal yn y gymdogaeth?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar gyfraddau treth incwm yng Nghymru?
Beth yw asesiad yr Ysgrifennydd Cabinet o'r cynnydd o ran datblygu polisïau ar gyfer y Gymraeg yng Nghasnewydd?
Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â sicrhau bod gogledd Cymru yn cael ei chynrychioli yng nghyllideb yr hydref?
Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch dyraniadau ariannol i GIG Cymru er mwyn ymdopi â phwysau'r gaeaf?
Sut mae polisi ardrethi annomestig Llywodraeth Cymru yn cefnogi canol trefi yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu parc cenedlaethol newydd yng ngogledd-ddwyrain Cymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r cynnydd tuag at gyrraedd ei thargedau bioamrywiaeth?
A wnaiff yr Ysgrifenydd Cabinet roi diweddariad ar y cynlluniau grant i gefnogi isadeiledd ar ffermydd i wella storfeydd slyri?
Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith tipio anghyfreithlon yn Nyffryn Clwyd?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gael mwy o ffermwyr i ddefnyddio dulliau ffermio cynaliadwy?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi cynaliadwyedd ffermio?
Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU ynghylch effaith newidiadau posibl i'r dreth etifeddiaeth ar fusnesau amaethyddol yng Nghymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Cyfoeth Naturiol Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ba gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu i adfer morwellt yng Nghymru?
Pryd fydd y Llywodraeth yn cyhoeddi ei strategaeth ddiwydiannol ar gyfer pren?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi adferiad natur?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cryfhau deddfwriaeth ar hela gyda chŵn yng Nghymru?