Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 04/06/2026 i'w hateb ar 09/06/2026

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ64099 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/06/2026

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effeithiolrwydd trefniadau diogelu mewn ysgolion ledled Cymru?

 
2
OQ64127 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/06/2026

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddefnyddio ei phwerau datganoledig i leihau'r baich treth yng Nghymru?

 
3
OQ64107 (w) Wedi’i gyflwyno ar 04/06/2026

Sut bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati i adfywio strydoedd mawr yn Bangor Conwy Môn?

 
4
OQ64089 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/06/2026

A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar gyllid seilwaith ffyrdd yng Ngŵyr Abertawe?

 
5
OQ64114 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/06/2026

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Nghaerdydd Ffynnon Taf?

 
6
OQ64129 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/06/2026

Beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar gynlluniau ar gyfer prosiectau seilwaith ynni yn Sir Gaerfyrddin?

 
7
OQ64124 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/06/2026

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi tenantiaid y mae'r sgandal cladin yn Victoria Wharf yn effeithio arnynt?

 
8
OQ64100 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/06/2026

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa waith y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i hyrwyddo dull cynllunio a arweinir gan gymunedau?

 
9
OQ64088 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 04/06/2026

A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau safbwynt Llywodraeth Cymru ar y Cynllun Gweithredu Gwrth-Hiliaeth Cyfiawnder Troseddol i Gymru?

 
10
OQ64091 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/06/2026

Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r pobl sy'n gwneud datgeliadau gwarchodedig rhag niwed, ac ehangu amddiffyniadau adrodd o dan Adran 43 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996?

 
11
OQ64082 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/06/2026

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o berfformiad unedau damweiniau ac achosion brys yn ne-ddwyrain Cymru?

 
12
OQ64131 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/06/2026

Beth yw blaenoriaethau presennol Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal plant?