Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 02/06/2021 i'w hateb ar 09/06/2021
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Gweinidog yr Economi
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn ymateb i’r addunedau amlinellwyd yn y Maniffesto Diwylliannol ar gyfer Adferiad gan What Next? Cymru?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol economi Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y defnydd o arferion diswyddo ac ailgyflogi gan gwmnïau sy'n cael cyllid gan Lywodraeth Cymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi busnesau canol trefi yn etholaeth Mynwy?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am dwristiaeth hygyrch yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau yn Sir Benfro dros y 12 mis nesaf?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ysgogi twf busnesau cynhyrchu bwyd bob dydd yng Nghymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cryfhau economi cymoedd y de yn ystod tymor y Senedd hon?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth i'r diwydiant twristiaeth yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Sut bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau yn y Rhondda ar ôl COVID-19?
Sut mae strategaeth economaidd Llywodraeth Cymru i ddarparu swyddi sy'n talu'n well wedi newid yn sgil y pandemig?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygiad SA1 yn Abertawe?
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth seibiant i ofalwyr di-dâl yn Nwyrain De Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y rôl y mae cyfleusterau meddygol cymunedol wedi'i chwarae yn ystod pandemig y coronafeirws?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi menywod yng Nghymru sy'n profi'r menopos?
Beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo defnyddio mwy o ragnodi cymdeithasol mewn practisau meddygon teulu?
Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi iechyd meddwl menywod yn dilyn pandemig COVID-19?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynigion i roi'r brechlyn COVID-19 i blant?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fuddsoddi mewn cyfleusterau iechyd yn Ne Clwyd?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y niferoedd sydd wedi manteisio ar y brechlyn COVID-19?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â'r ôl-groniad mewn triniaeth yn y GIG?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ofal sylfaenol yn ardal Caergybi?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adfer gwasanaethau iechyd yn ne-ddwyrain Cymru yn sgil pandemig COVID-19?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau fasgwlar yng ngogledd Cymru?