Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 03/05/2023 i'w hateb ar 09/05/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ailsefydlu pobl o Wcráin yng Nghymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i sicrhau bod gan y rhai sy'n gadael ysgol y sgiliau angenrheidiol i lwyddo yn y farchnad gyflogaeth?
Beth yw sail y derminoleg sy'n cael ei ddefnyddio yng Nghynllun Gweithredu LHDTQ+ Cymru?
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i wneud etholiadau mor hygyrch â phosibl?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lwyddiant y rhaglen diabetes math 1 SEREN a ddatblygwyd yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am y problemau yn Arfon sydd wedi deillio o'r cynllun Arbed?
Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gefnogi elusennau bach, cymunedol yng ngorllewin Cymru?
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i helpu ysgolion yng Nghanol Caerdydd i ostwng costau'r diwrnod ysgol?
Pa asesiad mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o'r cynnydd mewn rhenti yn y flwyddyn ddiwethaf?
Beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar ba bwerau pellach ddylai gael eu datganoli i Gymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi teuluoedd sy'n gweithio gyda gofal plant am ddim?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fenter Canol Trefi yn Gyntaf Llywodraeth Cymru?