Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 02/03/2022 i'w hateb ar 09/03/2022
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ba adnoddau ychwanegol y bydd eu hangen ar awdurdodau lleol i weithredu'r trothwyon newydd ar gyfer llety hunanarlwyo sy'n gymwys ar gyfer ardrethi annomestig?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ba ofynion a ystyriwyd wrth benderfynu ar y setliad cyfalaf ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cynnal gydag awdurdodau lleol ynghylch effaith cyfraddau treth cyngor ar yr argyfwng costau byw?
Pa ddyraniadau ychwanegol y bydd y Gweinidog yn eu gwneud i'r portffolio newid hinsawdd i gynorthwyo awdurdodau lleol fel Cyngor Sir Caerfyrddin i gefnogi cymunedau y mae llifogydd wedi effeithio arnynt?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cyllid ar gyfer y cynllun buddsoddi i arbed ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-23?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Thlysorlys y DU i sicrhau bod gan Lywodraeth Cymru y cyllid sydd ei angen arni i gefnogi'r rhai sy'n wynebu argyfwng costau byw?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw newidiadau arfaethedig i'r dreth trafodiadau tir yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hawliau grwpiau cymunedol i brynu asedau cyhoeddus?
Pa gamau y mae'r Gweinidog wedi'u cymryd i sicrhau bod y setliad llywodraeth leol yn deg i holl drigolion Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y paratoadau i dderbyn ffoaduriaid o Wcráin, yn dilyn ei chyfarfod ag arweinwyr llywodraeth leol?
Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i ariannu rhaglen y Cymoedd Technoleg wrth ddyrannu'r gyllideb ar gyfer portffolio'r economi?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod y pecyn cymorth costau byw yn ffordd effeithiol o fynd i'r afael â'r argyfwng?
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am raglen ddiwygiedig Llywodraeth Cymru ar gyfer dileu TB?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am brisiadau TB yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddileu TB yng nghanolbarth Cymru?
Beth yw strategaeth y Gweinidog ar gyfer cynyddu faint o lysiau a gaiff eu tyfu yng Nghymru?
Pa rôl y bydd y cynllun ffermio cynaliadwy yn ei chwarae yn y broses o adfer rhywogaethau?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â sefydliadau partner i sicrhau bod safonau iechyd a lles anifeiliaid yn cael eu cynnal?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael o fewn Llywodraeth Cymru ac yn allanol i sicrhau bod bwyd a diod lleol ar gael mewn ysgolion, cartrefi gofal ac ysbytai?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun ffermio cynaliadwy?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am strategaeth Llywodraeth Cymru i annog perchenogaeth gyfrifol ar gŵn?
Sut y bydd y Gweinidog yn adolygu effaith cyllid a hyfforddiant newydd i awdurdodau lleol ar wella'r broses o orfodi deddfwriaeth lles anifeiliaid?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi amaethyddiaeth a gefnogir gan y gymuned?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynhyrchu bwyd cynaliadwy?