Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 04/03/2021 i'w hateb ar 09/03/2021
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflawni cynllun adfer COVID-19 ar gyfer busnesau?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella mynediad i addysg bellach ac uwch i weithwyr yng Nghymru a allai fod yn bwriadu ailhyfforddi?
Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wireddu potensial economaidd Casnewydd yn llawn?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o berfformiad Cadw ledled Gogledd Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y defnydd o gyllid sydd heb ei ddyrannu yng nghyllideb flynyddol y llynedd?
Pa gamau y bydd y Prif Weinidog yn eu cymryd i sicrhau bod lles plant a phobl ifanc yn cael ei flaenoriaethu wrth ystyried llacio'r cyfyngiadau symud?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu ei buddsoddiad mewn prosiectau cyfalaf?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol Maes Awyr Caerdydd?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth a roddwyd i brosiect Rhondda Skyline?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am adfer gwasanaethau iechyd clinigol arfaethedig mewn ysbytai yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo hawliau cymunedau LGBT+ yn Islwyn?
Pa gymorth ariannol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i'r sector twristiaeth drwy gydol pandemig y coronafeirws?
Y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu hawliau dynol pobl anabl?
A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am ymdrechion i atal caethwasiaeth fodern yng ngogledd Cymru?
Pa gamau pellach y bydd y Dirprwy Weinidog yn eu cymryd i hyrwyddo mwy o gydraddoldeb rhywiol yng Nghymru?
A wnaiff y Dirprwy Weinidog amlinellu cyfraniad y sector gwirfoddol a gwirfoddoli yn ystod y pandemig?
A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r trydydd sector yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am ddiogelu hawliau dynol pobl hŷn yng Nghymru?