Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 04/02/2021 i'w hateb ar 09/02/2021
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa flaenoriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn Islwyn yn ystod COVID-19?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynglŷn â statws cyfansoddiadol Cymru o fewn y Deyrnas Unedig?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am hynt y broses o gyflwyno'r brechlyn yn Alun a Glannau Dyfrdwy?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu brechlynnau COVID-19 yn Nwyrain De Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i lunio strategaeth i lacio'r cyfyngiadau symud?
Beth y mae blaenoriaethau rhyngwladol Llywodraeth Cymru wedi bod yn ystod pandemig COVID-19?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth i'r economi wledig yn ystod y pandemig?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau y mae llifogydd yng nghanolbarth Cymru wedi effeithio arnynt?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o oblygiadau'r Undeb Ewropeaidd yn galw erthygl 16 i rym mewn perthynas â brechlynnau COVID-19?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth iechyd yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu i ba raddau y mae Deddf Addysg 1996 wedi dylanwadu ar bolisi Llywodraeth Cymru yn y pumed Senedd?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod y cynllun Turing yn hyrwyddo amcanion tebyg i rai rhaglen Erasmus yr UE?
Cwnsler Cyffredinol
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion y gyfraith yn Llywodraeth y DU ynghylch effaith Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 ar weithrediad y gyfraith yng Nghymru a Lloegr?
Yn dilyn cyhoeddi canllawiau lefel rhybudd 4 Llywodraeth Cymru ar gyfer etholiadau, pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i ddarparu ynghylch a ganiateir yn gyfreithiol i bleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr ac ymgyrchwyr eraill ddosbarthu taflenni etholiad?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith yn y DU ynghylch effaith y dyfarniad yn achos yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (apelydd) yn erbyn Arch Insurance (UK) Ltd ac eraill (ymatebwyr)?
Pa gyngor y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch y pwerau cyfreithiol sydd ganddi i gryfhau'r gallu i ddiogelu da byw rhag ymosodiadau gan gŵn?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i gydgrynhoi cyfraith Cymru yn y pumed Senedd?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am ymdrechion i wella ansawdd a chwmpas y sylwebaeth ar gyfraith Cymru yn ystod y pumed Senedd?