Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 04/01/2024 i'w hateb ar 09/01/2024
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn darparu gofal iechyd sylfaenol?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y bygythiad i ddemocratiaeth Cymru sy'n codi o rannu gwybodaeth anghywir ar-lein?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar safbwynt y Llywodraeth ar hunanddiffinio rhywedd?
Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella canlyniadau addysgol?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda rhanddeiliaid allweddol yn y sector dysgu seiliedig ar waith ynghylch darparu prentisiaethau?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar ddiogelwch cymunedol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i fynd i'r afael â thlodi yn Nwyrain De Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog nodi ymateb Llywodraeth Cymru i Adolygiad Diwylliant Annibynnol Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar ddarparu Ysbyty Cymunedol Gogledd Sir Ddinbych?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith Brexit ar Ben-y-bont ar Ogwr?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi cyn-aelodau'r lluoedd arfog y mae angen cymorth iechyd meddwl arnynt?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar gynlluniau ar gyfer adolygu'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya?