Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 03/12/2020 i'w hateb ar 08/12/2020

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ55992 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/12/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 yng Nghaerffili?

 
2
OQ55996 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/12/2020

Sut mae Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu dull sy'n seiliedig ar drawma o ddatblygu gwasanaethau cyhoeddus mwy caredig?

 
3
OQ56018 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/12/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad at ddeintyddiaeth yn ystod pandemig COVID-19?

 
4
OQ56000 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/12/2020

Beth yw asesiad cyfredol y Prif Weinidog o nifer yr achosion o COVID-19 yng Nghymru?

 
5
OQ56007 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/12/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith adolygu Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 ar Sir Conwy?

 
6
OQ56022 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/12/2020

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi teuluoedd y dywedir wrthynt am hunanynysu?

 
7
OQ56008 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/12/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllid ar gyfer Maes Awyr Caerdydd yn y dyfodol yn sgil effaith COVID-19?

 
8
OQ56023 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/12/2020

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno'r brechlyn COVID-19 ym Merthyr Tudful a Rhymni?

 
9
OQ56021 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/12/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cyllid sydd ar gael i ddarparu metro Bae Abertawe a chymoedd y gorllewin?

 
10
OQ56014 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/12/2020

Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cynnal ynghylch cytundeb ar y berthynas rhwng yr UE a'r DU yn y dyfodol?

 
11
OQ56013 (w) Wedi’i gyflwyno ar 03/12/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am reoli gosodiadau gwyliau tymor byr?

 
12
OQ56019 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/12/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y strategaeth ymgysylltu â'r cyhoedd ar gyfer rhoi'r rhaglen frechu COVID-19 ar waith yng Nghymru?