Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 01/11/2023 i'w hateb ar 08/11/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU cyn datganiad yr hydref y Canghellor i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cael cyfran deg o wariant cyhoeddus y DU?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad y diwygiadau arfaethedig i'r dreth gyngor a fydd yn cael eu cyflwyno yn 2025?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o gynnydd yng ngwaith cyd-bwyllgorau corfforedig mewn llywodraeth leol?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhagolygon tymor canolig ar gyfer cyllidebau awdurdodau lleol?
Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog ar gyfer datganoli pellach o Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol a chyrff rhanbarthol?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda chydweithwyr yn y Cabinet ynghylch cymorth ariannol i lywodraeth leol?
Pa ddyraniadau ychwanegol y bydd y Gweinidog yn eu gwneud i'r portffolio newid hinsawdd i gynorthwyo awdurdodau lleol i gefnogi cymunedau sydd mewn perygl o ddioddef llifogydd?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch sicrhau bod cyllid ychwanegol ar gael i gadw rhaglenni fel Gwasanaeth fflecsi Bwcabus?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch cymorth ariannol Llywodraeth Cymru i'r sector gofal plant?
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael â'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch lleihau effeithiau amaethyddiaeth ar lygredd dŵr?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwella lles anifeiliaid anwes?
Sut fydd cynllun Cynefin Cymru yn cefnogi ffermwyr yn Sir Drefaldwyn?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith diwedd y cynllun Glastir ar ffermwyr sy'n derbyn arian ohono?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch cefnogi cynghorau yng ngogledd Cymru i atal llifogydd?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y bydd y toriadau arfaethedig i gyllideb Llywodraeth Cymru yn ei chael ar y sector amaethyddol?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i ddiogelu pysgodfeydd mewndirol ac arfordirol?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith gwaharddiad Llywodraeth y DU o gŵn Bully XL Americanaidd ar y sector achub anifeiliaid yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am roi Deddf Hela 2004 ar waith yng Nghymru?
Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i hybu masnach o ran bwyd a diod o Gymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i hyrwyddo twf economaidd mewn ardaloedd gwledig?