Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 03/11/2022 i'w hateb ar 08/11/2022
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygu tai cymdeithasol mewn ardaloedd lle mae galw mawr?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i gynnwys pobl ifanc mewn penderfyniadau sy'n ymwneud â mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i annog awdurdodau lleol Cymru i gyhoeddi datganiadau o fwriad y rhwymedigaeth cwmni ynni (ECO4)?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl fferyllfeydd cymunedol o ran gwella a hybu iechyd trigolion Gorllewin De Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i frwydro yn erbyn newid hinsawdd yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y meini prawf cymhwyso ar gyfer technoleg monitro glwcos fflach a thechnoleg monitro glwcos barhaus ar gyfer rheoli diabetes?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwella mynediad at wasanaethau eiriolaeth?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwaith Parc Rhanbarthol y Cymoedd?
Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i hyrwyddo cynhyrchu ynni adnewyddadwy?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi cymuned y lluoedd arfog yng Nghymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau hygyrchedd gwasanaethau ariannol yng Nghymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru'n sicrhau bod plant o gefndiroedd tlotach yn cyrraedd eu potensial o fewn system addysg Cymru?