Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 01/10/2025 i'w hateb ar 08/10/2025
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Pa gamau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i reoleiddio tai amlfeddiannaeth?
Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda'r Comisiwn Etholiadol, awdurdodau lleol a'r heddlu ynglŷn â diogelwch etholiadau'r Senedd yn y dyfodol?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i annog pobl i gymryd rhan mewn etholiadau?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn ag effaith ei rhaglen Pride in Place ar awdurdodau lleol yng Nghymru wledig?
Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o sut y bydd y menter gydweithredol rhwng Cyngor Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg a Lovell Partnerships yn helpu i gyflymu'r gwaith o ddarparu tai arbenigol a chynlluniau newydd?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet osod amserlen i fynd i'r afael â'r materion ariannol sy'n wynebu perchnogion tai oherwydd diffyg rheoleiddio cwmnïau rheoli ystadau?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen diogelwch adeiladau Llywodraeth Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar gyfraddau adeiladu tai yng Nghymru?
Pa gamau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i gefnogi cynghorau i gadw'r dreth gyngor yn isel?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar anghenion tai yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog perthynas rhwng cynghorwyr etholedig a swyddogion cyflogedig sy'n galluogi awdurdodau lleol i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i'r boblogaeth y maent yn ei gwasanaethu?
Pa gefnogaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i drigolion sy'n pryderu am arafwch y gwaith o adfer eu hadeiladau ers trasiedi Grenfell yn 2017?
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi oedolion sy'n ddysgwyr?
Sut mae'r cwricwlwm i Gymru yn ymgorffori dysgu cysylltiedig â gwaith ac addysg yrfaol yn ei fframwaith?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu a chanlyniadau uwchgynhadledd genedlaethol Llywodraeth Cymru ar ymddygiad?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â lles staff a diogelwch swyddi ym Mhrifysgol Bangor?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu dyfarniad y Goruchaf Lys ar y diffiniad o ryw yn ysgolion?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod anghenion dysgwyr yn cael eu diwallu yn achos y rhai sydd wedi'u dadleoli o ganlyniad i adeiladau ysgol yn cael eu cau oherwydd pryderon diogelwch?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella presenoldeb mewn ysgolion?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl i mewn i addysg bellach?
A wnaiff Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd tuag at sefydlu model cynaliadwy ar gyfer athrawon cyflenwi ledled Cymru?
Sut mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn bwriadu codi safonau ysgolion ar gyfer gweddill y Senedd hon?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar rôl addysg bellach wrth gefnogi datblygiad sgiliau a thwf economaidd yn Abertawe?
Pa hyfforddiant diogelu y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i ysgolion ac athrawon i ddiogelu plant rhag effeithiau andwyol deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol a sgwrsfotiau deallusrwydd artiffisial?