Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 03/10/2019 i'w hateb ar 08/10/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa ddefnydd a wneir o gynulliadau dinasyddion i fynd i'r afael â materion yn ymwneud â'r argyfwng newid yn yr hinsawdd a gafodd ei ddatgan gan Lywodraeth Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau tocynnau ar rwydwaith Trafnidiaeth Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y broses ddisgyblu ar gyfer uwch swyddogion mewn llywodraeth leol?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am reolau lobïo Llywodraeth Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr achosion o glefyd y Llengfilwyr yn y Barri dros y 12 mis diwethaf?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r diwydiant fferyllol?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd aros ysbytai yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau diweddar gyda Trafnidiaeth Cymru ar berfformiad ei wasanaethau yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am welliannau i brif gefnffyrdd yn Sir Drefaldwyn?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am dâl ar lefel weithredol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol gweithlu'r GIG yng Nghymru?
Y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip
A wnaiff y Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol?
A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r sector gwirfoddol yn Sir Benfro?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu hawliau dynol pobl Cymru yn y system cyfiawnder troseddol?
A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am bolisïau cyfiawnder Llywodraeth Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog gwirfoddoli ymysg pobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin?