Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 30/05/2022 i'w hateb ar 08/06/2022
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am lefelau tlodi tanwydd yn etholaeth Rhondda?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch sefydlu canolfan breswyl i fenywod yn Abertawe?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'i chyd-Weinidogion ynghylch hyrwyddo hawliau pobl anabl?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith y gyfradd chwyddiant bresennol ar bobl hŷn yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl gwasanaethau fel Cyngor ar Bopeth yn ystod yr argyfwng costau byw?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi cyn-filwyr yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth Cymru?
Pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i fynd i'r afael a thlodi tanwydd yn Nwyfor Meirionnydd?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi sefydliadau'r trydydd sector y mae eu hincwm wedi gostwng oherwydd yr argyfwng costau byw?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru'n ei roi i bobl sy'n byw gyda dyledion a achosir gan ôl-ddyledion y dreth gyngor?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth sydd ar gael i ffoaduriaid o Wcráin a'u noddwyr?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei thrafodaethau â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder am y ganolfan breswyl i fenywod yn Abertawe?
Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
A yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnal ymarfer cwmpasu i asesu faint o adnoddau ychwanegol y byddai angen i Drysorlys y DU eu darparu i gynnal system gyfiawnder ddatganoledig gynaliadwy a llwyddiannus yng Nghymru?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am erlyniadau mewn perthynas â physgota anghyfreithlon?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith mewn perthynas â Bil Trefn Gyhoeddus Llywodraeth y DU?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i sicrhau cyfleusterau digonol ar gyfer Tribiwnlysoedd Cymru?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith ynghylch cyfreithlondeb cynlluniau Llywodraeth y DU i anfon ceiswyr lloches i Rwanda?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith y bydd torri niferoedd Aelodau Seneddol Cymru yn Senedd y DU yn ei chael ar y broses o graffu ar ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud ynghylch i ba raddau y mae Llywodraeth y DU yn glynu wrth egwyddorion confensiwn Sewel?
Pa asesiad mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith Araith y Frenhines ar faterion sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd?
Comisiwn y Senedd
Pa gamau y mae'r Comisiwn wedi'u cymryd i ddadfuddsoddi pensiynau staff o danwydd ffosil?
Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i sicrhau nad yw bwydydd sy'n cynnwys olew palmwydd anghynaliadwy yn cael eu gweini ar ystâd y Senedd?
Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i sicrhau bod pensiynau staff y Senedd a staff sy'n cefnogi aelodau yn cael eu datgarboneiddio?
A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gofal bugeiliol y mae'n ei gynnig i'w weithlu?
Pa drafodaethau y mae'r Comisiwn wedi'u cael i sicrhau mwy o lais i Gymru ar y Cynulliad Partneriaeth Seneddol: fforwm newydd yr UE a'r DU a sefydlwyd o dan y cytundeb masnach a chydweithredu?