Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 03/06/2021 i'w hateb ar 08/06/2021
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynglyn â’r camau sydd wedi eu cymryd i atal llifogydd yng Nghanol De Cymru yn dilyn llifogydd 2020?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r defnydd o arferion diswyddo ac ailgyflogi gan gyflogwyr yng Nghymru?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch yr Adran Gwaith a Phensiynau yn tandalu pensiynau i fenywod?
Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched, yn enwedig mewn cymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fuddsoddi yn y rhwydwaith rheilffyrdd yn ne-orllewin Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol economi gogledd Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynllun peilot awyr agored ar gyfer cynulliadau torfol yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y rôl y mae'r Gymraeg wedi'i chwarae yn natblygiad Caerdydd fel prifddinas Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gofalwyr ifanc yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflwyno brechlyn COVID-19 yn Nwyrain De Cymru?
Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi adferiad y system gofal cymdeithasol o COVID-19?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i wella seilwaith trafnidiaeth yn ne-ddwyrain Cymru?