Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 01/03/2023 i'w hateb ar 08/03/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Gweinidog yr Economi
Sut mae'r Gweinidog yn gweithio gyda Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a'r Prif Chwip i hybu'r diwydiant teledu a ffilm sy'n tyfu yng Nghymru?
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i annog mwy o bobl ifanc i ddechrau eu busnesau eu hunain?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y caiff Fferm Gilestone ei defnyddio gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ffigyrau diweithdra yn Ne Clwyd?
Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gefnogi busnesau'r stryd fawr yn ne-ddwyrain Cymru?
Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynglŷn â'r effaith y bydd cyfyngiadau cyflymder diofyn o 20mya yn ei chael ar economi Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r economi leol yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i ddiwygio Croeso Cymru?
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gynyddu cyfleoedd prentisiaethau?
Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i helpu i ddenu twristiaid i Ganolbarth a Gorllewin Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar strategaeth y Llywodraeth i gefnogi ymchwil a datblygu yng Ngorllewin De Cymru?
Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i flaenoriaethu a gwreiddio adeiladu cyfoeth cymunedol yng Nghymru?
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am benderfyniad diweddar Ambiwlans Awyr Cymru i gynnal gwasanaethau yng nghanolbarth Cymru am y tair blynedd nesaf?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer Dechrau'n Deg?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r camau sy'n cael eu cymryd i wella mynediad at ddiagnosteg yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe?
Pa gymorth sydd ar gael i bobl yng Nghymru gydag osteoporosis?
Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r heriau iechyd y mae gaethiwed i gamblo yn eu cyflwyno yn Islwyn?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am nifer y meddygon teulu yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad at ddeintyddion yng Ngogledd Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi menywod ag endometriosis yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am gefnogaeth i oroeswyr strôc yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr?
Pa ystyriaeth mae Llywodraeth Cymru wedi ei rhoi i adolygiad gwella diweddar Arolygiaeth Gofal Cymru o wasanaethau plant ym Mhen-y-bont ar Ogwr?
Beth yw strategaeth y Gweinidog ar gyfer cryfhau nyrsio cymunedol?
Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod cymorth iechyd meddwl digonol ar gael i bobl ifanc yn Nwyrain De Cymru?