Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 03/03/2022 i'w hateb ar 08/03/2022
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella cysylltedd digidol yng Ngogledd Cymru?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cael gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu i fynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail hil yn y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru?
Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ynghylch grymuso cymunedau?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynghylch y gostyngiad yn niferoedd y deintyddion gweithredol yn y GIG yng Ngorllewin De Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddull Llywodraeth Cymru o adfer yn dilyn COVID-19 yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gronfa gwella eiddo mewn canolfannau trefol yn ardal awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu strategaeth cyfryngau cymdeithasol Llywodraeth Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynghorau i atgyweirio ffyrdd lleol yn Ne Clwyd?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynt y cynllun lles anifeiliaid Cymru gan Lywodraeth Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwella seilwaith cymdeithasol canol trefi?
A wnaiff y Prif Weinidog rannu'r wybodaeth ddiweddaraf am ardal fenter Ynys Môn?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl sy'n byw gyda chanser yng Nghymru?