Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 31/01/2023 i'w hateb ar 08/02/2023

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Y Gweinidog Newid Hinsawdd

1
OQ59096 (w) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2023

Pa gynlluniau sydd ar y gweill gan Lywodraeth Cymru i helpu pobl ifanc Arfon gyda chostau teithio ar drafnidiaeth cyhoeddus?

 
2
OQ59079 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2023

Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru'n ei darparu ar gyfer cymunedau arfordirol sy'n wynebu bygythiad o lifogydd?

 
3
OQ59073 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2023

Pa gynnydd mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud tuag at ei tharged o gyflenwi 70 y cant o alw trydan Cymru o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030?

 
4
OQ59080 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2023

Pa drafodaethau diweddar y mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â diogelwch adeiladau?

 
5
OQ59082 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2023

Pa feini prawf y mae'r Gweinidog yn eu rhoi ar waith wrth benderfynu a ddylid gwyrdroi penderfyniad awdurdod lleol i wrthod caniatâd cynllunio?

 
6
OQ59095 (w) Datganodd yr Aelod fuddiant Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2023

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cymru parthed codi peilonau trydan yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

 
7
OQ59091 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2023

Pa ystyriaeth mae'r Gweinidog wedi ei rhoi i'r ddeiseb a roddwyd i Lywodraeth Cymru ddydd Iau 12 Ionawr mewn perthynas â phwll glo Ffos-y-Fran?

 
8
OQ59077 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2023

Sut mae Llywodraeth Cymru'n ymgysylltu ag awdurdodau lleol o ran yr adolygiad o ffyrdd?

 
9
OQ59078 (w) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2023

Beth yw asesiad y Gweinidog o gapasiti Cyfoeth Naturiol Cymru i gyflawni ei ddyletswyddau’n llawn?

 
10
OQ59090 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2023

Pa sgyrsiau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am ei Chynllun Gwella'r Amgylchedd 2023?

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

1
OQ59088 (w) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2023

Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r gwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn Sir Gâr yn ôl data'r cyfrifiad diwethaf?

 
2
OQ59089 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2023

Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru'n ei rhoi i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol sydd am fynychu i addysg ôl-16, a'u teuluoedd?

 
3
OQ59074 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2023

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno Cwricwlwm i Gymru Llywodraeth Cymru?

 
4
OQ59097 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2023

Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i godi safonau addysgol yn Islwyn?

 
5
OQ59084 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2023

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi ynglŷn â sut y gall y system addysg helpu i fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau yng Nghymru?

 
6
OQ59083 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2023

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth ar gyfer ysgolion bro?

 
7
OQ59092 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2023

Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi'i wneud o fesurau posibl i arbed costau ar gyfer ysgolion?

 
8
OQ59072 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2023

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi disgyblion niwroamrywiol?

 
9
OQ59087 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2023

Sut mae Llywodraeth Cymru'n gweithio i sicrhau bod y nifer mwyaf posibl yn manteisio ar ei chynnig prydau ysgol am ddim i bawb?

 
10
OQ59085 (w) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2023

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag awdurdodau lleol i geisio sicrhau bod gan yr holl staff sy’n gweithio mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg sgiliau iaith Gymraeg?

 
11
OQ59081 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2023

Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael ag absenoldeb o'r ysgol yng Ngorllewin De Cymru?

 
12
OQ59071 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2023

A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg ym Mhreseli Sir Benfro ar gyfer y 12 mis nesaf?