Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 18/12/2024 i'w hateb ar 08/01/2025
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Pa gyllid y mae Llywodraeth Cymru yn ei dargedu tuag at grwpiau cymunedol sydd am ddatblygu llwybrau teithio llesol i'r ysgol?
Sut y mae polisïau teithio llesol Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau gwledig?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar fuddsoddi mewn bysiau a rheilffyrdd yn Islwyn?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am lif traffig ar yr M4 rhwng Cyffordd 43 a Chyffordd 38?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar Fetro Gogledd Cymru?
Sut y mae yr Ysgrifennydd Cabinet yn gweithio i gyflawni blaenoriaeth y Prif Weinidog o drwsio ffyrdd a phalmentydd?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am gau porthladd Caergybi?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn hygyrch i bawb yng Nghanol De Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet rhoi diweddariad ar ddarpariaeth cludiant i ddysgwyr?
Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn ddibynadwy ar gyfer cymudwyr yn Nwyrain De Cymru?
Pa drafodaethau y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cyllid canlyniadol HS2 i Gymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar ganllawiau teithio llesol Llywodraeth Cymru?
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar ddatganoli cyfiawnder ieuenctid?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Llywodraeth Cymru gydag awdurdodau lleol ar y ddarpariaeth safleoedd sipsiwn a theithwyr?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella cynhwysiant digidol mewn cymunedau gwledig?
Pa gamau y mae yr Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i sicrhau na fydd cynnydd mewn tlodi tanwydd yng Nghymru yn 2025?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi sefydliadau gwirfoddol sy'n mynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd?
Pa drafodaethau y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU dros Gyfiawnder ynghylch cyflwyno carchar i fenywod yng Nghymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn diogelu'r gwasanaethau allweddol a ddarperir gan elusennau a chyrff y trydydd sector?
Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o hyfywedd ariannol y sector gwirfoddol yng Nghymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar ymrwymiadau Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru ar gydraddoldeb LHDTC+?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector gwirfoddol yn Sir Drefaldwyn?
Sut fydd cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn helpu i leihau tlodi plant?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi preswylwyr ar draws Gorllewin De Cymru gyda phwysau costau byw?
Comisiwn y Senedd
Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i wella ansawdd Senedd.tv?
Pa asesiad y mae'r Comisiwn wedi ei wneud o effaith y cynnydd sydd wedi bod mewn costau llogi bws ar y nifer o ysgolion sy'n ymweld a'r Senedd?