Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 18/12/2019 i'w hateb ar 08/01/2020

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

1
OAQ54853 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 18/12/2019

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymrwymiadau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer Mynwy yn 2020?

 
2
OAQ54865 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/12/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21?

 
3
OAQ54852 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/12/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn rheoli ei chyllideb?

 
4
OAQ54875 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/12/2019

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch ariannu gwasanaethau deintyddol yn y dyfodol?

 
5
OAQ54857 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/12/2019

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn rheoli ei hadnoddau i sicrhau gwerth am arian ac effeithiolrwydd?

 
6
OAQ54887 (w) Wedi’i gyflwyno ar 18/12/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr effaith y bydd cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 yn ei chael ar Ogledd Cymru?

 
7
OAQ54881 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/12/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith cyllideb Llywodraeth Cymru ar bobl Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?

 
8
OAQ54878 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/12/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21?

 
9
OAQ54868 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/12/2019

Pa ddyraniadau ychwanegol fydd ar gael i'r portffolio Tai a Llywodraeth Leol yn ystod y cylch cyllideb cyfredol i gefnogi Grant Cymorth Tai Llywodraeth Cymru?

 
10
OAQ54856 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/12/2019

Pa ystyriaeth wnaiff y Gweinidog ei rhoi i ariannu gwasanaethau ymyrraeth gynnar wrth ddyrannu cyllideb 2020-21?

 
11
OAQ54859 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 18/12/2019

Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau gwerth am arian yng nghyllideb 2020-21?

 
12
OAQ54888 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/12/2019

Beth yw blaenoriaethau gwario Llywodraeth Cymru yn Ogwr?

Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

1
OAQ54866 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/12/2019

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo hawliau dynol drwy ei strategaeth cysylltiadau rhyngwladol?

 
2
OAQ54854 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/12/2019

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Addysg ynghylch hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg drwy'r system addysg?

 
3
OAQ54870 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/12/2019

A wnaiff y Gweinidog amlinellu strategaeth Llywodraeth Cymru i ddenu digwyddiadau i Gymru?

 
4
OAQ54873 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/12/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gwerthoedd sy'n sail i strategaeth cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru?

 
5
OAQ54886 (w) Wedi’i gyflwyno ar 18/12/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau gwariant ar hybu'r Gymraeg yn y gyllideb ddrafft?

 
6
OAQ54879 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/12/2019

Pa strategaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei defnyddio i gynyddu nifer yr ymarferwyr blynyddoedd cynnar sy'n siarad Cymraeg?

 
7
OAQ54871 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/12/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddosbarthiad arian y loteri yng Nghymru?

 
8
OAQ54882 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/12/2019

Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i adeiladu ar waddol digwyddiadau chwaraeon mawr a gynhelir yng Nghymru?

 
9
OAQ54860 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 18/12/2019

Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn manteisio ar ddigwyddiadau chwaraeon mawr, fel twrnamaint pêl-droed Ewro 2020, er mwyn annog mwy o ymwelwyr undydd i Gymru?

 
10
OAQ54874 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/12/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo atyniadau twristiaeth yng Ngorllewin De Cymru?

 
11
OAQ54851 (w) Wedi’i gyflwyno ar 18/12/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fuddsoddi mewn adnoddau pêl-droed 3G cymunedol?

Comisiwn y Cynulliad

1
OAQ54867 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/12/2019

A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am gyfranogiad yn y cynllun achredu Rhuban Gwyn?