Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 30/11/2022 i'w hateb ar 07/12/2022
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â thlodi ym Mynwy?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerwyd ers i'r Senedd basio cynnig ym mis Gorffennaf yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried sefydlu cynllun peilot incwm sylfaenol ymhlith gweithwyr mewn diwydiant trwm fel rhan o'r broses o drosglwyddo Cymru i economi ddi-garbon?
Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i'r sector gwirfoddol yng Ngogledd Cymru?
Pa sgyrsiau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda chyd-aelodau'r Cabinet am gefnogi pobl sy'n gadael gofal?
Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i bobl hŷn yn cael eu cam-drin wrth lunio'r strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yn Nwyfor Meirionnydd?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun gweithredu LHDTC+ i Gymru?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Swyddfa'r Post a'r Post Brenhinol ynglŷn â sichrau parhad eu gwasanaethau yng Nghanol De Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gryfhau hawliau pobl anabl?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru am gynyddu ymwybyddiaeth pobl hŷn o'u hawliau?
Pa gynigion sydd gan Lywodraeth Cymru i wella mynediad pobl sydd â nam ar eu golwg a nam ar eu clyw at wasanaethau cyhoeddus?
Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i sicrhau nad yw pobl sydd ag anableddau dysgu yn wynebu gwahaniaethu?
Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Arglwydd Ganghellor am ddatganoli cyfiawnder?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei roi i Lywodraeth Cymru ar sut y gall gefnogi ymgyrch gwirionedd a chyfiawnder Orgreave?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r goblygiadau i Gymru o ddyfarniad yr Goruchaf Lys ynglŷn â hawl yr Alban i alw refferendwm ar ei dyfodol cyfansoddiadol?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi diweddariad ynglŷn â diwygio'r Tribiwnlysoedd Cymreig?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei roi i Lywodraeth Cymru yn dilyn dyfarniad y Goruchaf Lys nad oes gan Senedd yr Alban y grym i ddeddfu ar gyfer refferendwm ar annibyniaeth i'r Alban?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion y gyfraith eraill ynglŷn â datganoli cyfiawnder ieuenctid i Gymru?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud ynghylch a yw'r broses cydsyniad deddfwriaethol yn addas i bwrpas?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o fynediad at gyfiawnder yng Nghymru?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud ynghylch a fydd y trefniadau rhyng-lywodraethol newydd a gynigir gan yr Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol yn ddigon agored i brosesau craffu?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â statws cyfreithiol a chyfansoddiadol Aelodau dynodedig?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith ar drigolion Cymru yn dilyn ymateb terfynol Llywodraeth y DU i'r Adolygiad Annibynnol o Gymorth Cyfreithiol Troseddol?
Comisiwn y Senedd
Beth yw polisi'r Comisiwn o ran darparu cynnyrch mislif am ddim ar ystâd y Senedd?
Sut mae'r Comisiwn yn sicrhau ei fod yn hawdd i staff gael gafael ar gynhyrchion mislif am ddim ar ystâd y Senedd?
A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei strategaeth ar gyfer lleihau biliau ynni ar ystâd y Senedd?
Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran cynllun cymorth aberth cyflog i geir trydan ar gyfer staff y Comisiwn a staff Aelodau o'r Senedd?