Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 02/12/2021 i'w hateb ar 07/12/2021

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ57341 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/12/2021

Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch Cymru yn cael cyfran deg o fuddsoddiad seilwaith rheilffyrdd yn dilyn cymeradwyaeth adroddiad Hendry ar gyfer cynigion metro de-ddwyrain Cymru?

 
2
OQ57315 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/12/2021

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygiad cymdeithasau budd cymunedol?

 
3
OQ57345 (w) Wedi’i gyflwyno ar 02/12/2021

Pa gynnydd y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud mewn perthynas â'i hadolygiad ffyrdd?

 
4
OQ57343 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/12/2021

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o gynnwys pobl leol a chymunedol wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd?

 
5
OQ57347 (w) Wedi’i gyflwyno ar 02/12/2021

Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu datblygu sgiliau digidol yn Ynys Môn?

 
6
OQ57336 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/12/2021

Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i ddileu trais yn erbyn menywod?

 
7
OQ57332 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/12/2021

Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella gwasanaethau bysiau yng Ngogledd Cymru?

 
8
OQ57314 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/12/2021

A gafwyd unrhyw ohebiaeth rhwng Llywodraeth Cymru a swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol mewn perthynas ag wythnos waith pedwar diwrnod?

 
9
OQ57309 (w) Wedi’i gyflwyno ar 02/12/2021

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr amserlen ar gyfer sefydlu academi ddeintyddol newydd Bangor?

 
10
OQ57342 (w) Wedi’i gyflwyno ar 02/12/2021

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i leihau allyriadau carbon yn Sir Benfro?

 
11
OQ57344 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/12/2021

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn gallu ceisio noddfa a chymorth yng Nghymru?

 
12
OQ57330 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/12/2021

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gynyddu maint y Senedd?