Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 02/11/2023 i'w hateb ar 07/11/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i adfer tomenni glo yn ddiogel yng Nghaerffili?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwaith i liniaru llifogydd lleol yng nghanolbarth Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gan bawb yng Nghanol De Cymru fynediad at feddyg teulu mor agos i'w cymuned â phosibl?
Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer trafnidiaeth yng Ngorllewin De Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwneud tirfeddianwyr yn ymwybodol o bwysigrwydd cynnal a chadw ceuffosydd a ffosydd yn briodol ar gyfer atal llifogydd?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith o uwchraddio adrannau 5 a 6 yr A465 Blaenau’r Cymoedd?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella mynediad at driniaeth i gleifion yng ngogledd Cymru?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i fusnesau lleol i sicrhau cydymffurfiaeth â Deddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fanteisio ar botensial economaidd a chymdeithasol ardaloedd arfordirol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog newydd-ddyfodiaid ifanc i'r diwydiant amaethyddol?
Pa gamau pellach sydd wedi'u cymryd gan y Llywodraeth o ran adeiladu ffordd osgoi Llandeilo ers datganiad ysgrifenedig y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ym mis Gorffennaf eleni?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i fusnesau yn Nwyrain De Cymru?