Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 30/09/2020 i'w hateb ar 07/10/2020
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella cysylltiadau rheilffordd â Blaenau Gwent?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fewnfuddsoddi yn rhanbarth Gogledd Cymru dros dymor y Senedd hon?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch cymorth ychwanegol i fusnesau mewn ardaloedd lle mae cyfyngiadau COVID-19 newydd, fel Llanelli?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr economi ymwelwyr yng ngogledd Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau gyda Thrafnidiaeth Cymru ynghylch ymbellhau cymdeithasol ar drafnidiaeth gyhoeddus?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i fusnesau lletygarwch yn ystod pandemig y coronafeirws?
Sut y mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r diwydiant bysiau yng Nghymru?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi economi sir Benfro dros y 12 mis nesaf?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo twf economaidd yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad cyflogwyr at arian cyhoeddus yn sgil COVID-19?
Sut y mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu sicrhau bod Islwyn yn adeiladu'n ôl yn well yn dilyn pandemig COVID-19?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth i'r sectorau hynny o'r economi yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan y cyfyngiadau symud diweddaraf yng Ngogledd Cymru?
Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael am effaith Brexit ar y sector modurol yng Nghymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd yn ddiweddar i baratoi ar gyfer y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am sut y bydd rhaglen Llywodraeth Cymru i adfer ar ôl y coronafeirws o fudd i Flaenau Gwent?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith Bil Marchnad Fewnol y DU ar Borthladd Caergybi?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r risg o darfu ar gyflenwadau bwyd ffres os bydd Llywodraeth y DU yn methu â sicrhau cytundeb masnach â'r UE cyn diwedd y cyfnod pontio?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymgynghoriad Cymru Ein Dyfodol ar gefnogaeth ar gyfer adfer ac ailgodi ar ôl COVID-19 yn y dyfodol?
Pa gyflwyniadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud i ymchwiliad Tŷ'r Cyffredin i gymorth cyfreithiol, o ystyried pryderon ynghylch anawsterau o ran cael gafael ar gymorth cyfreithiol yn ystod pandemig COVID-19?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael ynghylch effaith Brexit heb gytundeb ar y diwydiant gweithgynhyrchu yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Sut y mae COVID-19 wedi effeithio ar allu Llywodraeth Cymru i baratoi ar gyfer y posibilrwydd o Brexit heb gytundeb ar ddiwedd y cyfnod pontio?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru am ddyfodol economi Cymru yn yr adferiad ar ôl COVID-19?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am asesiad parhaus Llywodraeth Cymru o effaith Bil Marchnad Fewnol y DU ar Ganolbarth a Gorllewin Cymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ynghylch a yw Bil Marchnad Fewnol y DU wedi cryfhau safbwynt negodi'r DU gyda'r UE?