Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 30/06/2021 i'w hateb ar 07/07/2021
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Gweinidog yr Economi
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i fusnesau yn Alun a Glannau Dyfrdwy?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hybu twristiaeth yn Sir Ddinbych?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith technoleg arloesol ar y gweithlu?
Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi'r sector manwerthu yng Nghymru dros y 12 mis nesaf?
Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd am effaith economaidd porthladdoedd rhydd?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y gefnogaeth ariannol a ddarparwyd i'r diwydiant lletygarwch dros y misoedd diwethaf?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fargen twf y gogledd?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fargeinion dinesig yn ne Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth i asiantau teithio annibynnol y mae pandemig y coronafeirws wedi effeithio arnynt?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyfraddau cyflogaeth yn y Rhondda?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi busnesau'r stryd fawr yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch yr effaith y bydd yr adolygiad o adeiladu ffyrdd yng Nghymru yn ei chael ar economi Cymru?
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiwygio gofal cymdeithasol?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod plant sydd angen gofal lliniarol yn cael y gofal gorau posibl?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gofal cartref yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y defnydd o driniaeth breifat o fewn y GIG?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad at wasanaethau meddygon teulu yn Alun a Glannau Dyfrdwy?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion i wella gwasanaethau dementia yng Nghymru?
Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella systemau digidol o fewn GIG Cymru?
Beth yw asesiad presennol y Gweinidog o ledaeniad amrywiolyn Delta ym Mhen-y-bont ar Ogwr?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglenni rheolaidd i sgrinio am ganser yng Nghymru?
Pa gamau sydd yn cael eu cymryd i wella mynediad at ddiagnosis a thriniaeth canser yn dilyn y pandemig ar gyfer trigolion Canol De Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael ag amseroedd aros cleifion yng Ngogledd Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella morâl staff sy'n gweithio yn y GIG?