Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 31/05/2023 i'w hateb ar 07/06/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Newid Hinsawdd
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar strategaeth y Llywodraeth i wella’r amgylchfyd trefol yng Ngorllewin De Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gynlluniau’r Llywodraeth i wella cysylltiadau trafnidiaeth dros y Fenai?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lygredd yn Afon Tawe?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o fanteision amgylcheddol saethu anifeiliaid hela?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl sydd eisiau dringo'r ysgol eiddo?
Pa ffactorau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried wrth gyfrifo targedau adeiladu tai?
Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran gwella diogelwch ar y ffyrdd yng ngogledd Sir Ddinbych?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut fydd cynlluniau datblygu strategol y dyfodol yn effeithio ar broses cynlluniau datblygu lleol yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gwmpas pwyntiau gwefru ceir trydan yn ne-ddwyrain Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwasanaethau bysiau lleol yn Ne Clwyd?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod Cymru'n cael y budd mwyaf o'i hadnoddau dŵr?
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth ar waith i hybu addysg cyfrwng Cymraeg?
Sut mae'r Gweinidog yn gweithio gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd i hyrwyddo teithio llesol mewn ysgolion?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddefnyddio asiantaethau i ddarparu cynorthwywyr addysgu mewn ysgolion?
Sut mae'r Gweinidog yn gweithio gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gefnogi ysgolion sy'n dymuno cynnal clybiau gwyliau?
Pa gynnydd sydd wedi ei wneud ar ddarparu cyfloedd trochi yn y Gymraeg i ddysgwyr oed ysgol yng Nghanol De Cymru?
Pa gynnydd sy'n cael ei wneud o ran cryfhau dull ysgolion bro ym maes addysg?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod dysgwyr yn derbyn addysg Gymraeg o safon?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau absenoldeb ysgol?
Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi cynnal am gyllid ysgolion yng Nghaerdydd?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo iechyd meddwl a llesiant i fyfyrwyr a staff yn y sector addysg bellach?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â chost y diwrnod ysgol?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella addysg sy'n ymwneud â chynaliadwyedd bwyd yn ysgolion Cymru?