Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 31/05/2022 i'w hateb ar 07/06/2022
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am safbwynt Llywodraeth Cymru ar ddiwygio'r Senedd?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog mannau gwyrdd newydd yn ne-ddwyrain Cymru?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda chynghorau chwaraeon y DU ynghylch cynnwys pobl drawsryweddol mewn chwaraeon?
Pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i gefnogi awdurdodau lleol gyda'r nifer cynyddol o blant sy'n destun cynllun amddiffyn plant?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r cyfryngau i hyrwyddo newyddiaduraeth yng Nghymru?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i ddarparu trafnidiaeth gyhoeddus a chymunedol integredig yn etholaeth Ogwr sy'n diwallu anghenion etholwyr sy'n dlawd o ran trafnidiaeth?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i wella gwasanaethau iechyd meddwl?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am ddyfodol canolfan awyr agored Plas Menai yn Arfon?
Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau'r manteision mwyaf posibl o statws dinas Wrecsam?
A wnaiff y Prif Weinidog nodi cynlluniau'r Llywodraeth o ran niferoedd staff rheng flaen y GIG?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fabwysiadu ffyrdd gan gynghorau yng Nghymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi digwyddiadau mawr yng ngogledd Cymru?