Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 29/04/2025 i'w hateb ar 07/05/2025

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

1
OQ62636 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 29/04/2025

Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) ar y diwydiant twristiaeth?

 
2
OQ62661 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/04/2025

Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i gefnogi busnesau'r stryd fawr yn Nwyrain De Cymru?

 
3
OQ62646 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/04/2025

Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o'r effaith ar Gymru yn sgil tynnu cyllid y DU yn ôl o Borth y Gorllewin?

 
4
OQ62654 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/04/2025

Pa ystyriaeth y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i rhoi i'r effaith ar fusnesau canol trefi yn sgil cynllun datblygu lleol diwygiedig Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf?

 
5
OQ62651 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/04/2025

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effeithiau ffermydd solar arfaethedig ar drigolion lleol yn ne-ddwyrain Cymru?

 
6
OQ62653 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/04/2025

Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynglŷn ag annog colegau ledled Cymru i gymryd rhan yng nghystadleuaeth WorldSkills i helpu i ddiwallu anghenion diwydiant?

 
7
OQ62648 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/04/2025

Pa ystyriaeth y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i rhoi i sut y gall sefydliadau diwylliannol Cymru arddangos treftadaeth unigryw Gogledd Cymru yn well?

 
8
OQ62663 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/04/2025

Pa werthusiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o'r potensial adfywio economaidd yn sgil amgueddfa rygbi Cymru arfaethedig yn Sir Gaerfyrddin?

 
9
OQ62656 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/04/2025

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi twf economaidd yn Nwyrain Casnewydd?

 
10
OQ62638 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 29/04/2025

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ymchwil a datblygu i hyrwyddo twf economaidd?

 
11
OQ62649 (w) Wedi’i gyflwyno ar 29/04/2025

Pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i hyfforddi gweithluoedd lleol yn y sgiliau sydd eu hangen i uwchraddio a gwella cartrefi?

 
12
OQ62660 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/04/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet amlinellu polisi Llywodraeth Cymru ar gyfleusterau storio ynni mewn batri?

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

1
OQ62650 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/04/2025

Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu integreiddio technolegau cymryd nodiadau deallusrwydd artiffisial, tebyg i'r rhai sy'n cael eu treialu gan Lywodraeth y DU, i leihau beichiau gweinyddol a gwella gofal cleifion yn y GIG?

 
2
OQ62644 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/04/2025

Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi i fyrddau iechyd yn dilyn dyfarniad Goruchaf Lys y DU ar y diffiniad o fenyw?

 
3
OQ62635 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 29/04/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr oedi cyn trosglwyddo o ambiwlans i'r adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Glan Clwyd?

 
4
OQ62640 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/04/2025

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella ansawdd gofal iechyd meddwl cleifion mewnol?

 
5
OQ62662 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/04/2025

Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i ddileu gofal mewn coridorau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan?

 
6
OQ62652 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/04/2025

Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith adroddiad Ebrill 2025 gan Grŵp Cynghori Gweinidogol ar Berfformiad a Chynhyrchiant GIG Cymru ar drigolion Sir Fynwy?

 
7
OQ62634 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/04/2025

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwaith o ddarparu gofal sylfaenol yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?

 
8
OQ62643 (w) Wedi’i gyflwyno ar 29/04/2025

Pa drefniadau mae'r Llywodraeth wedi eu rhoi ar waith i sicrhau bod y gwasanaethau a gynigir yn Seren Lodge yng Nghaer yn addas ar gyfer mamau o ogledd a chanolbarth Cymru?

 
9
OQ62658 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/04/2025

Pa ystyriaeth y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i rhoi i adroddiadau diweddar sy'n ymwneud â chamymarfer mewn theatrau llawdriniaethau yn Ysbyty Athrofaol Cymru?

 
10
OQ62642 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/04/2025

Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer y lleoedd hyfforddi arbenigol anaesthesia yn GIG Cymru?

 
11
OQ62639 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/04/2025

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella'r gwaith o ddarparu gwasanaethau iechyd ym Mhreseli Sir Benfro?

 
12
OQ62633 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/04/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar gynhyrchiant ac effeithlonrwydd ym maes gofal eilaidd?