Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 01/05/2024 i'w hateb ar 07/05/2024
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa gymorth sydd ar gael i famau newydd a menywod beichiog yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am brosiect pont Llannerch rhwng Trefnant a Thremeirchion?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu i ddiogelu gwleidyddion yng Nghymru rhag ymosodiadau corfforol a llafar posibl?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynhyrchu ynni gwyrdd?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith bosibl Deddf Diogelwch Rwanda (Lloches a Mewnfudo) 2024 ar geiswyr lloches a ffoaduriaid yng Nghymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwaith o adfywio canol trefi yn etholaeth Caerffili?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am berfformiad Trafnidiaeth Cymru?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gydag Avanti West Coast ynghylch eu perfformiad yn y gogledd?
Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â pharcio ar balmentydd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynyddu'r ddarpariaeth gofal iechyd sylfaenol yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am gymorth i bobl ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr y mae cynllun Arbed wedi effeithio'n negyddol arnynt?