Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 01/05/2019 i'w hateb ar 07/05/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ysbytai cymunedol yn y Gogledd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllid yr UE ar gyfer Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau damweiniau ac achosion brys yng Ngorllewin De Cymru?
Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar weithredu'r penderfyniad a wnaed yn refferendwm yr UE?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu i sefydlu egwyddorion cydweithredol ar lefel leol a chenedlaethol ledled Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y telerau ac amodau ar gyfer athrawon cyflenwi sy'n gweithio yng Nghymru?
Beth yw barn Llywodraeth Cymru am y defnydd o barthau 20mya yng Nghymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r sector manwerthu?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith amgylcheddol cynlluniau datblygu lleol?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i brosiect Arfor i’r dyfodol?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â thlodi bwyd ym Merthyr Tudful a Rhymni?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygiad posibl morlyn llanw Bae Abertawe?